myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Busnes

Busnes 1

Cefnogi’r Gymraeg Sut y gall eich busnes wneud y gorau o’r Gymraeg

Cefnogi’r Gymraeg 
Sut y gall eich busnes wneud y gorau o’r Gymraeg
Defnyddio Marc Cefnogi’r Gymraeg - Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Yng Nghymru mae nifer fawr iawn o fusnesau eisoes yn defnyddio’r Gymraeg. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn gwerthfawrogi hynny, ac yn meddwl bod defnyddio’r Gymraeg gan fusnesau yn bwysig. Mae Marc Cefnogi’r Gymraeg yn ffordd hawdd i fusnesau dynnu sylw at eu cefnogaeth i’r Gymraeg, ac i ddangos eu bod nhw’n parchu disgwyliadau cwsmeriaid Cymru.


Pam cymryd rhan yng nghynllun Cefnogi’r Gymraeg?
Os yw eich busnes eisoes yn defnyddio’r Gymraeg, bydd cynllun Cefnogi’r Gymraeg yn eich helpu chi i hyrwyddo hynny. Os nad yw eich busnes yn defnyddio’r Gymraeg ar hyn o bryd, bydd cynllun Cefnogi’r Gymraeg yn ei roi ar ben y ffordd. Nid yw’n golygu gwneud popeth yn ddwyieithog, ac nid yw’n mynnu bod gennych staff sy’n medru siarad Cymraeg. Gall eich busnes ddefnyddio’r cynllun fel cam cyntaf, ac adeiladu ar hynny dros amser. Mae busnesau adnabyddus ac uchel eu parch eisoes yn rhan o’r cynllun, felly bydd eich busnes mewn cwmni da. Bydd eich staff a’ch cwsmeriaid yn falch bod eich busnes yn cefnogi iaith a diwylliant gwerthfawr Cymru.

Pa fuddion eraill sydd i’r cynllun?
Bydd bron pob un o’r 600,000 o bobl sy’n medru siarad Cymraeg yn falch o weld bod eich busnes yn gefnogol i’r Gymraeg. Ond nid eu hiaith nhw yw hi yn unig. Mae ymchwil annibynnol1 yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn falch o’r Gymraeg, ac yn meddwl ei fod yn bwysig bod busnesau yn ei defnyddio. Er mai 1 mewn 5 o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg, mae 3 mewn 5 yn gefnogol i’r iaith. Trwy gofrestru ar gynllun Cefnogi’r Gymraeg, bydd yr holl bobl hyn, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg, yn medru gweld bod eich busnes yn parchu’r Gymraeg. Mae ymchwil annibynnol hefyd yn dangos fod cwsmeriaid yn cysylltu gwasanaeth yn Gymraeg a nwyddau wedi eu pecynnu yn ddwyieithog gydag ansawdd uwch. Mae arweinwyr y farchnad wedi gweld hynny, a nhw mewn sawl sector sy’n arwain o ran defnyddio’r Gymraeg. Bydd cofrestru ar y cynllun yn dweud wrth eich cwsmeriaid - hen a newydd - bod eich busnes yn cyrraedd safonau uchel. Bydd y Bwrdd yn cynnal cyfeiriadur o fusnesau sydd wedi cofrestru ar gynllun Cefnogi’r Gymraeg. Bydd unrhyw un sydd eisiau chwilio am fusnes sy’n gefnogol i’r Gymraeg yn medru gwneud hynny’n hawdd, felly bydd cofrestru ar y cynllun yn arf marchnata ychwanegol i’ch busnes.

Sut mae cofrestru fy musnes ar gyfer Cefnogi’r Gymraeg?
Dim ond cadarnhau i’r Bwrdd bod eich busnes yn cyflawni ymrwymiadau’r cynllun, gan gynnwys enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich busnes. Medrwch wneud hynny trwy ddanfon neges e-bost at post@byig-wlb.org.uk.
02/07/2010

Cyfieithu am ddim

Cyfieithu am ddim
Mae Llinell Gyswllt Bwrdd yr Iaith Gymraeg
yn gwneud y canlynol:

cyfieithu hyd at 30 o eiriau
golygu hyd at 75 o eiriau
cyfieithu bwydlenni o bob math
cynnig gwybodaeth am bob agwedd ar Gymru a'r Gymraeg
cynnig gwasanaeth ymgynghorol ar enwau lleoedd yng Nghymru
A hyn oll yn rhad ac am ddim.

Ffoniwch 0845 607 6070

Anfonwch neges destun at +44 (0)762 480 4130

Anfonwch ffacs: +44 (0)1248 725 735

01/07/2010

Co-op Pontardawe yn hybu'r Gymraeg

Co-op Pontardawe yn hybu'r Gymraeg
Gwenda Thomas AC yn cyflwyno tystysgrif i Wyn Davies, Rheolwr y Co-operative Pontardawe ar ran Menter Iaith CNPT am hybu'r Gymraeg yn y gweithle
Co-op Pontardawe yn hybu'r Gymraeg
30/06/2010

Iaith Gwaith - Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Iaith Gwaith - Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Archebwch eich nwyddau Iaith Gwaith yn rhad ac am ddim!
Beth yw Iaith Gwaith?

Ymgyrch i hyrwyddo gwasanaeth ddwyieithog yw Iaith Gwaith.

Bathodyn oren yw calon yr ymgyrch, rhywbeth syml all gael ei wisgo gan staff sy’n delio yn uniongyrchol â'r cyhoedd i ddynodi eu bod yn siarad neu’n dysgu Cymraeg. Mae’n symbol sy’n hysbysu cwsmeriaid i ddeall bod gwasanaeth Gymraeg ar gael.

Mae’r bathodyn – mewn siâp swigen siarad – yn dynodi bod yr iaith Gymraeg yn iaith lafar sydd ar waith.

Mae degau o filoedd o'r bathodynnau wedi cael eu dosbarthu i fusnesau, siopau, amgueddfeydd, tafarndai, ymddiriedolaethau iechyd, cynghorau sir a llawer iawn mwy o sefydliadau.

Beth yw’r manteision?

· Helpu cwsmeriaid i adnabod staff Cymraeg

· Cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid yn eu dewis iaith yn syth – a hynny yn rhad ac am ddim

· Dangos eich bod yn adnabod yr angen a manteision cyflogi staff Cymraeg

· Datblygu sgiliau cyfathrebu Cymraeg eich staff.

Darllen y rhestr gyflawn o fanteision

Cymorth i Fusnesau: Iaith Gwaith: Gwaith Celf

Er mwyn medru defnyddio gwaith celf Iaith Gwaith bydd rhaid i chi cofrestru gyda Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

02/07/2010

Cyngor i Fusnesau gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Cyngor i Fusnesau
gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
Yn ddiweddar bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o'r Gymraeg gan fusnesau a rôl y Bwrdd yw annog y duedd hon trwy gynnig cefnogaeth a chyngor i fusnesau sydd am ddatblygu ar eu defnydd o’r Gymraeg.

Mewn marchnad gynyddol fyd-eang mae busnesau’n gweld gwerth mewn cyfleu personoliaeth ac mewn uniaethu eu hunain â Chymru. Yn ogystal mae cynnig gwasanaeth dwyieithog yn arwydd o ymrwymiad i'r holl gwsmeriaid. Mae hyd yn oed y rheini sydd ddim yn siarad yr iaith yn gwerthfawrogi gweld a chlywed y Gymraeg.

Dau brif linyn gwaith y Bwrdd yw:
• cydweithio gyda, a chefnogi, cwmnïau sydd am ddatblygu eu defnydd o`r Gymraeg, a
• thargedu cwmnïau sydd ddim o reidrwydd wedi'u lleoli yng Nghymru ond sydd â phresenoldeb busnes yma.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae amryw o arweinwyr marchnad wedi mabwysiadu dwyieithrwydd oherwydd ei fod yn gwneud synnwyr busnes da, ac rydym yn ymwybodol y bydd busnesau eraill yn ceisio efelychu’r rhain.

Ymysg y cwmnïau mae'r Bwrdd wedi bod yn cydweithio gyda nhw mae Marks & Spencer, Boots, HSBC, NatWest, Tesco, Primark a Borders. Rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau brodorol Cymreig, o gwmnïau cysylltiadau cyhoeddus a chanolfannau galw i ddarparwyr bwyd, siopau, a busnesau amaethyddol megis Wynnstay.

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ymrwymo i gefnogi'r defnydd o`r Gymraeg mewn busnes ac yn awyddus i gynnig cyngor ymarferol i gwmnïau syn dymuno gweithredu’n ddwyieithog.

01/07/2010

Tesco Pontardawe yn hybu’r Gymraeg

Tesco Pontardawe yn hybu’r Gymraeg
Mae siaradwyr Cymraeg sydd yn siopa yn Tesco Pontardawe wedi nodi bod y cyhoeddiadau dros y system cyhoeddus yn cael eu gwneud yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, a’r aelod o staff sy’n gyfrifol am hyn yw Novella Evans. Er iddi wneud hyn o’i gwirfodd mae’n derbyn cefnogaeth frwd gan ei chyd-weithwyr a chwsmeriaid Tesco Pontardawe.

Fe benderfynodd Pwyllgor Rheoli Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot gydnabod cefnogaeth Tesco i’r iaith Gymraeg ac fe aeth Iona Herbert ac Alun Pugh swyddogion y fenter draw i’r siop i gyflwyno tystysgrif

Yn y llun gwelir Iona Herbert, o Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn cyflwyno tystysgrif y fenter i Novella, gyda Nigel Rees, rheolwr cynorthwyol a Karen Parvin, arweinydd tîm.
22/04/2007

Rhagor o Newyddion

 

 

Cymorth.com - llinellau ffôn Cymraeg
Cliciwch i ddefnyddio'r Gymraeg

 

gwefan.org - Cymraeg ar y We
Cliciwch am wefannau Cymraeg

iaith gwaith

.

 
 
   
     

 

 


 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176