myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Busnes

TAITH IAITH GWAITH - Tesco Pontardawe

TAITH IAITH GWAITH - Tesco Pontardawe
Prynhawn dydd Gwener 20.11.09 fe aeth Sarah Rees, Swyddog Maes y Fenter draw i archfarchnad Tesco Pontardawe i gynorthwyo staff Bwrdd yr Iaith hysbysebu cynllun ‘Iaith Gwaith’.
Ymgyrch i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yw Iaith Gwaith. Mae’n gweithio drwy annog siaradwyr Cymraeg gwisgo bathodyn ar ffurf swigen fechan oren iddynt gael eu hadnabod, ac i ddefnyddwyr ddewis siarad â nhw yn y Gymraeg.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg am gynnal ‘Taith Iaith Gwaith’ yn ystod mis Tachwedd 09 i hybu’r cynllun mewn 21 lleoliad cyhoeddus ledled Cymru. Mae’r Bwrdd yn bwriadu cael dau berson wedi gwisgo fel y ‘swigod’ i gyfathrebu negeseuon mewn amryw leoliadau - archfarchnadoedd gan fwyaf , ynghyd â chanolfannau siopa - gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg trwy godi ymwybyddiaeth o’r cynllun Iaith Gwaith.
23/11/2009

 

 

Cymorth.com - llinellau ffôn Cymraeg
Cliciwch i ddefnyddio'r Gymraeg

 

gwefan.org - Cymraeg ar y We
Cliciwch am wefannau Cymraeg

iaith gwaith

.

 
 
   
     

 

 


 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176