![]() |
![]() |
![]() |
|
menter@micnpt.org
Menter
Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU
Ffôn: 01792 864949
| Digwyddiadur |
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
| 10/09/2010 Dydd Gwener Poster | 7.30yh | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o gynulleidfa Dechrau Canu Dechrau Canmol? Medi'r 10fed am 7.30yh Fe gall trafnidiaeth gael ei drefnu os oes angen. Am fwy o fanylion, cysylltwch â: Ffion neu Daniel: 01443 688500 | Capel Tabernacl, Cwm Afan |
| 17/09/2010 Dydd Gwener | 8.30yh | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Gigs y Gwach Medi 2010 Er i fod Tafarn y Gwachel ar gau ar hyn o bryd, mae’r Fenter wedi bod mewn trafodaethau gyda’r bragdy ac yn ffyddiog bydd gig mis Medi gyda MS + ATL yn mynd yn ei flaen fel yr arfer. Os am unrhyw reswm mae’r sefyllfa yn newid gyda’r bragdy, mae’n fwriad gan y Fenter i fwrw ‘mlaen â’r gig mewn lleoliad addas cyfagos. Fe fyddwn yn cadarnhau’r trefniadau / lleoliad cyn gynted â phosib. Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y noson. | Y Gwachel |
| 30/09/2010 Dydd Iau Poster | . | Prifysgol Abertawe RHAGLEN LLENYDDIAETH GYMRAEG 2010-2011 STORI A CHERDD BELLACH Côd: OPWE0110 Pryd: Dydd Mawrth 28 Medi 2010, 1300-1500 am 10 wythnos, bob wythnos Ble: Tŷ Tawe, Christina Street, Abertawe Tiwtor: Robat Powel Cost: Darllen a mwynhau straeon, drama a barddoniaeth Gymraeg. CREU AR GYNGHANEDD Côd: OPWE0201 Pryd: Dydd Mercher, 29 Medi 2010, 1900-2100 am 10 wythnos, bob wythnos Ble: Tŷ Tawe, Christina Street, Abertawe Tiwtor: Robat Powel Cost: Barddoni ar gynghanedd ar gyfer dechreuwyr a rhai mwy profiadol. MERCHED ENWOG CYMRU Côd: OPWE0310 Pryd: Dydd Mawrth, 21 Medi 2010, 1400-1600, 10 wythnos, bob pythefnos Ble: Neuadd Les, Pontiets, Llanelli Tiwtor: Gwyn Griffiths Cost: Cyfle i astudio eu cyfraniad tuag at hanes ein gwlad. TRAFOD LLENYDDIAETH GYMRAEG Côd: OPWE0410 Pryd: Dydd Mercher, 22 Medi 2010, 1400-1600 am 10 wythnos, bob wythnos Ble: Festri Libanus, Pwll, Llanelli Tiwtor: Bethan Clement Cost: Cyfle i ddarllen a thrafod ystod o lenyddiaeth Gymraeg. SIARAD SIONC A DARLLEN DIFYR Côd: OPWE0510 Pryd: Dydd Mawrth, 28 Medi 2010, 1000-1200 am 10 wythnos, bob wythnos Ble: Canolfan Addysg Gymunedol, Stryd Rhosmaen, Llandeilo, Tiwtor: Tom Marks Cost: Cwrs i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr profiadol i ymarfer eu Cymraeg trwy ddarllen a siarad. CADW'R CHWEDLAU'N FYW Côd: OPWE0610 Pryd: Dydd Llun, 27 Medi 2010, 1000-1200 am 10 wythnos, bob pythefnos Ble: Festri’r Tabernacl, Treforys Tiwtor: Heini Gruffudd Cost: Golwg ar ein hen chwedlau a’u defnydd mewn llenyddiaeth fodern. CADW'R CHWEDLAU'N FYW Côd: OPWE0710 Pryd: Dydd Iau, 30 Medi 2010, 1000-1200 am 10 wythnos, bob wythnos Ble: Festri Capel Trinity, Sgeti, Abertawe Tiwtor: Heini Gruffudd Cost: Golwg ar ein hen chwedlau a’u defnydd mewn llenyddiaeth fodern. CADW'R CHWEDLAU'N FYW Côd: OPWE0810 Pryd: Dydd Iau, 30 Medi 2010, 1430-1630 am 10 wythnos, bob wythnos Ble: Ystalyfera, lleoliad i’w gadarnhau (ffoniwch 01792 295766 am fanylion) Tiwtor: Heini Gruffudd Cost: Golwg ar ein hen chwedlau a’u defnydd mewn llenyddiaeth fodern. Mae cyrsiau iaith i bob lefel (yn ddysgwyr a Chymry Cymraeg) ar gael hefyd. Am ragor o fanylion ffoniwch 01792 295766 neu e-bostiwch r.evans@abertawe.ac.uk. | - |
| 01/10/2010 Dydd Gwener Poster | 7.30yh | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu gig yng Nghlwb Rygbi Brynaman ar Hydref y 1af. Fe fydd Elin Fflur a Gildas yn perfformio ar y noson! Mae'r tocynnau yn £6, felly'r cyntaf i'r felin! I archebu eich tocyn, cysylltwch â Sarah: 01792 864949 neu busnes@micnpt.org | Clwb Rygbi Brynaman |
| 09/11/2010 Dydd Mawrth Poster | 11.45 | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Sblash a Chân Sesiynau nofio i riant a phlentyn rhwng 6 mis oed a 3 mlwydd oed. Dydd Mawrth 11.45-12.15 - £2.50 y sesiwn! Am 10 wythnos: 07/09/10 - 09/11/10 Cofiwch aros am ddisgled a sgwrs! Am ragor o fanylion cysylltwch â Sarah: 01792 864949 | Pwll Nofio Pontardawe |
| 17/12/2010 Dydd Gwener Poster | 8.30yh | Gigs y Gwach, Medi-Rhagfyr 2010 Sefydlwyd 'Gigs y Gwach' yn ôl ym mis Mawrth 2008, a braf yw nodi bod y gigs yn mynd o nerth i nerth. Mae nifer fawr o artistiaid a bandiau gorau Cymru wedi chwarae yn 'Gigs y Gwach' yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf ac mae'n fwriad gan y Fenter Iaith i gynnal y safon yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, yn dechrau gyda MEIC STEVENS ar nos Wener, 17eg o Fedi. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Gwachel ym mis Medi. | Tafarn y Gwachel (Pontardawe Inn) |
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
| Wythnosol Dydd Llun | 11:00 | Dysgwyr Castell-nedd Bore Coffi i ddysgwyr a Chymry iaith gyntaf. Dewch i siarad Cymraeg dros ddishgled ac un o deisienod blasus y caffi! | Caffi Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhaeadrau Aberdulais |
| Wythnosol Dydd Llun | 1:45pm | Pwll Nofio Pontardawe a MICNPT SBLASH! Rhieni a Babanod trwy gyfrwng y Gymraeg 0 mis - 3 blwydd oed Dydd Llun 1:45pm - 2:15pm Pris - £2.95 Am wybodaeth bellach: 01792 864949 | Pwll Nofio Pontardawe |
| Wythnosol Dydd Mawrth Poster | 4:00pm | Gwersi Golff i ddechreuwyr trwy gyrwng y Gymraeg i blant 7-11 oed | Clwb Golff Pontardawe |
| Wythnosol Dydd Mawrth Poster | 9.30-10.45yb | TWF Cymraeg i Rieni TWF | Canolfan Gymunedol Cwmafan |
| Wythnosol Dydd Mawrth Poster | 9.15-11.15yb | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot/TWF Siarad Cymraeg ond byth yn ‘neud? Eisiau magu hyder i siarad mwy? ‘Ma’r grŵp i ti. | Ysgol Y Wern, Ystalyfera |
| Wythnosol Dydd Mawrth | 10.30yb | Dechrau Da Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a TWF yn cydweithio gyda Dechrau Da ar gyfer raglen llyfrau i fabanod genedlaethol gyntaf yn y byd. | Llyfrgell Pontardawe |
| Wythnosol Dydd Mercher | 7.00yh | Disgos Golau Glas (oed 11-16) 7.00-10.00y.h. bob nos Fercher | Clwb Nos "Paradise", Pontardawe |
| Wythnosol Dydd Mercher | 10.30 | Bore Coffi Dewch i gael disghgled a chlonc yng Nghaffi'r Willow Grove, Castell-nedd. Croeso cynnes i ddysgwyr, Cymry ail-iaith a Chymry iaith gyntaf. Fe ddowch o hyd i'r criw cyfeillgar ar waelod y grisiau yng nghefn y caffi. Nhw yw'r bobl swnllyd ar y bwrdd cyntaf ar y dde! | Caffi'r Willow Grove, Castell-nedd (gyferbyn â Gerddi Fictoria) |
| Wythnosol Dydd Mercher Poster | 8-9.00yh | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Dewch i chwarae pel droed! £2 bob wythnos Am ragor o fanylion cysylltwch gyda Wyn Thomas 01639 763681 (gwaith) | Astrotyrff Ganolfan Hamdden Pontardawe |
| Wythnosol Dydd Mercher | 2.00pm | Dechrau Da Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a TWF yn cydweithio gyda Dechrau Da ar gyfer raglen llyfrau i fabanod cenedlaethol gyntaf yn y byd. | Llyfrgell Port Talbot |
| Wythnosol Dydd Mercher Poster | 8.00-9.00yh | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Pêl-droed i oedolion (16+) bob nos Fercher | Astrotyrff, Canolfan Hamdden Pontardawe |
| Wythnosol Dydd Iau | 10.15y.b. | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Clwb Darllen Cymraeg | Festri Tabernacl, Pontardawe |
| Wythnosol Dydd Iau | 11:30 | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Bore Coffi wythnosol i ddysgwyr a Chymry iaith gyntaf. Cyfle i siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. | Canolfan Hyfforddiant D.O.V.E. Banwen (yn y caffi) |
| Wythnosol Dydd Iau Poster | 6-7.00yh | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Tîm Pêl-rwyd Mae Menter Iaith CNPT wedi dechrau tîm pêl-rwyd i ferched 16+ yn ardal Aman Uchaf ar y cyd gyda Chymunedau yn Gyntaf. Ymarfer bob nos Iau. | Gampfa Ysgol Gynradd Gwaun-cae-gurwen |
| Wythnosol Dydd Iau | 9:30-10:45 | Twf, Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru Cymraeg i Rieni Twf. Dysgu Iaith Syml i unrhywun sydd gyda phlant ifanc yn y teulu neu sy'n gweithio gyda phlant ifanc. Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Patsy Bracewell 07966 936 270 | "Building Blocks" Resolfen Castell-nedd |
| Wythnosol Dydd Iau Poster | 7.00-9.00yh | CÔR NEWYDD I GWMTAWE? Daeth unig gôr cymysg Cymreig Cwmtawe i ben yn ddiweddar. Bu CôrAl mewn bodolaeth ers chwe mlynedd o dan arweiniad Mr Aled Maddock (CôrAl!!!!). Cynorthwyd Aled gan Cath Price a’r cyfeilydd oedd Elfair Jones o Gwmgïedd. Am resymau personol, penderfynodd yr arweinyddiaeth roi’r ffidil, (neu’r piano!!) yn y to, ond ‘roedd dal awydd parhau gyda trwch yr aelodaeth. I’r perwyl hyn, aeth y pwyllgor gweithgar wrthi dros yr haf i geisio gwireddu’r dyhead. Y newyddion da yw iddynt sicrhau gwasanaeth un o fois y Cwm fel arweinydd, sef Mr Glyn Williams o Bontardawe, nawr o Gellinudd. Mae Glyn wedi ymddeol bellach fel athro ac fel dirprwy arweinydd Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys, felly mae ei allu a’i brofiad yn wybodus i bawb. Cytunodd i ymgymryd â’r gwaith am gyfnod o chwe mis i ddechrau, “i weld siwd mae pethe’n mynd”. Mae’r aelodaeth bresennol yn gyffrous iawn ac yn chwilio am fwy o gantorion, o unrhyw oedran, (amrywio o 16 oed i dros 60 ar hyn o bryd) ond yn enwedig dynion, i ymuno â nhw. Bydd Glyn yn dechrau ar ei waith bob nos Iau, yn Neuadd y Gymuned, Trebannws, rhwng 7.00 a 9.00 o’r gloch. Bydd y noson gyntaf ar nos Iau, Tachwedd 5ed, nos Iau gyntaf y mis. 'Rydym yn disgwyl ’tân gwyllt’ o noson i gadw’r traddodiad corawl Cymreig i fynd yn y cwm. Cymharwyd CôrAl unwaith gyda Chôrdydd!! (clod yn wir) a’r bwriad yw cyrraedd y safon hynny eto gyda’r côr newydd o dan faton Glyn. O ie, ‘rydym yn edrych am enw newydd, cofiadwy, gafaelgar. Unrhyw gynigion?? Cofiwch - nos Iau, 5ed Tachwedd, 7 o’r gloch, Neuadd Trebannws. Dewch, hen ac ieuanc, dewch... | Neuadd Gymunedol Trebannws |
| Wythnosol Dydd Gwener Poster | 10.30yb | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Clwb Darllen Castell-nedd Dydd Gwener olaf bob mis Croeso i aelodau newydd | Llyfrgell Castell-nedd |
| Wythnosol Dydd Sadwrn Poster | 10.00-12.00 | Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Ysgol Berfformio TÂN Cyfle i feithrin sgiliau: Actio, Cyfarwyddo, Canu, Technegol | Canolfan Gymunedol Melyn |
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176 |