menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Digwyddiadur
DyddiadAmser BethBle
02/07/2009
Dydd Iau Poster
7:30 Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot COFIWCH NOS YFORY! Noson o Haf Bydd Cwis gan Alun Wyn Bevan a pherfformiad gan Heather Jones. Pris mynediad yn £5 gan gynnwys lluniaeth ysgafn. Neuadd y Dref Castell-nedd
20/07/2009
Dydd Llun Poster
9.00yb-3.30yp Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Cynllun Chwarae Haf 2009 Ysgol Gymraeg Castell-nedd
21/07/2009
Dydd Mawrth Poster
9.00yb-3.30yp Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Cynlluniau Chwarae Haf 2009 Ysgol Gymraeg Pontardawe
31/07/2009
Dydd Gwener
. Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot Cystadleuaeth Ysgrifennu Sgets Odych chi ‘rioed wedi cael syniad am sgets ond ddim wedi trafferthu i’w sgwennu achos does neb yn mynd i’w pherfformio ar lwyfan? Wel dyma’ch cyfle chi!! Anfonwch sgets yn cynnwys i fyny at bump o gymeriadau fydd yn para o 10 i 15 munud ac os byddwch chi’n lwcus fe gaiff ei pherfformio gan actorion Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe o flaen cynulleidfa yn eich hardal chi. Mae’r Gymdeithas yn mynd allan i’r gymuned gyda’u Noson o Adloniant sy’n cynnwys drama fer ac eitemau amrywiol ac fe allai eich sgets chi, ynghyd ac eraill, fod yn rhan o’u rhaglen nesaf. Y gynulleidfa fydd yn dewis y sgets orau felly dewch a’ch cefnogwyr ‘da chi!! Os enillwch chi, chi fydd yn cynrychioli ardal Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot ac yn mynd ymlaen i rownd derfynol rhwng y Mentrau. I’ch atgoffa dyma ofyniadau y sgets: • I bara am 10 i 15 munud i 2 - 5 o gymeriadau • Yn weddus i’w pherfformio yn gyhoeddus i bob oedran!! • Y props i gynnwys pethau syml fel byrddau a chadeiriau • Anfonwch eich sgets erbyn diwedd Gorffennaf at Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot, Canolfan Gymunedol Y Groes, 1 Stryd Fawr, Pontardawe SA8 4HU neu at swyddfa@micnpt.org
31/07/2009
Dydd Gwener
. Dysgu Cymraeg i Oedolion Ydych chi’n berson brwdfrydig ac yn gallu siarad Cymraeg? Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg i Oedolion? Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Ni ellir cynnal y rhaglen eang o gyrsiau heb gymorth nifer fawr o diwtoriaid. Cynigir dau gwrs hyfforddiant yn ystod 2009/10 gan y Ganolfan i diwtoriaid sydd ag ychydig o brofiad neu’r rhai fyddai’n hoffi dechrau gweithio fel tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Lleolir y cyrsiau yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin/Sir Benfro. Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau neu am ffurflen gais, cysylltwch â Caryl Clement ar 01269 860555, j.c.clement@abertawe.ac.uk
Wythnosol
DyddiadAmserBethBle
Wythnosol
Dydd Llun
11:00 Dysgwyr Castell-nedd Bore Coffi i ddysgwyr a Chymry iaith gyntaf. Dewch i siarad Cymraeg dros ddishgled ac un o deisienod blasus y caffi! Caffi Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhaeadrau Aberdulais
Wythnosol
Dydd Llun
7-9yh HANES CYMRU Cyflwyniad i hanes ein gwlad o'r dyddiau cynnar hyd at yr 20fed ganrif. Bydd y cwrs yn cynnwys 9 gwers a gobeithir cynnal gwibdaith hefyd. Cost £37.25 neu £12 (consesiwn) Os am fwy o wybodaeth cysylltwch a Alison Jones 01639 648051 neu drwy e-bost:alison.jones@nptc.ac.uk YDT Ystalyfera
Wythnosol
Dydd Llun
7:00-8:00yh Urdd Gobaith Cymru AELWYD NEWYDD ARDAL GWAUN CAE GURWEN Mae Aelwyd yr Urdd newydd yn mynd i ddechrau yn ardal Gwaun Cae Gurwen. Croeso i bawb o flynyddoedd 7-13 sy'n byw yn yr ardal Cyfle i gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau a mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Chwaraeon, gemau, ymweliadau, a llawer mwy..... Cyfarfod cyntaf - Nos Lun Tachwedd 19 2007 £1 yr wythnos i fynychu - oni nodir yn wahanol Am fanylion pellach 01792 560 624 Clwb Rygbi Cwmgors
Wythnosol
Dydd Llun
1:45pm - 2:15pm Pwll Nofio Pontardawe a MICNPT SBLASH! Rhieni a Babanod trwy gyfrwng y Gymraeg 0 mis - 3 blwydd oed Dydd Llun 1:45pm - 2:15pm Pris - £2.95 Dechrau: 21.7.08 Am wybodaeth bellach: 01792 863474 (Canolfan Hamdden) neu 01792 864949 (Swyddfa'r Fenter) Pwll Nofio Pontardawe
Wythnosol
Dydd Mawrth
9-10yh Clwb Pêl droed 5 bob ochr Canolfan Hamdden Pontardawe
Wythnosol
Dydd Mawrth Poster
9.30 Prifysgol Cymru Abertawe Cyflwyniad i Lenyddiaeth Gymraeg wedi ei anelu at ddysgwyr profiadol. Bwriad y cwrs hwn yw rhoi blas ar waith rhai o brif lenorion Cymru. Cofrestrwch yn y sesiwn cyntaf ar 14eg Mawrth. Canolfan Gymunedol Heol Shelone Llansawel
Wythnosol
Dydd Mawrth Poster
4:00pm Gwersi Golff i ddechreuwyr trwy gyrwng y Gymraeg i blant 7-11 oed Dydd Mawrth, 17 Mehefin - 22 Gorffennaf Clwb Golff Pontardawe
Wythnosol
Dydd Mawrth
7.00 -9.00 yh HANES CYMRU Cyflwyniad i hanes ein gwlad o'r dyddiau cynnar hyd at yr 20fed ganrif gyda Geraint Roberts. Bydd y cwrs yn cynnwys 9 gwers a gobeithir cynnal gwibdaith hefyd. Hydref 2ail Cost £37.25 neu £12 (consesiwn) Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â Alison Jones 01639 648051 neu drwy e-bost: alison.jones@nptc.ac.uk Canolfan Gymunedol Gwaun-cae-gurwen
Wythnosol
Dydd Mawrth Poster
4:00pm Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a Clwb Golff Pontardawe Gwersi Golff i ddechreuwyr (7-11 oed) Trwy gyfrwng y Gymraeg Dydd Mawrth, 3 Mehefin— 8 Gorffennaf 2008 4:00yh Sesiynau awr y tro am gyfnod o 6 wythnos Pris am 6 awr o wersi: £30 (i’w dalu o flaen llaw) Hyfforddiant i grwpiau o 8 (mwy nag un grŵp yn bosib) Os ydych am gofrestru ffoniwch swyddfa’r Fenter 01792 864949 neu drwy e-bost: busnes@micnpt.org Clwb Golff Pontardawe
Wythnosol
Dydd Mawrth Poster
6:00pm Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a Clwb Golff Pontardawe Gwersi Golff i Fenywod Trwy gyfrwng y Gymraeg Dydd Mawrth, 3 Mehefin— 8 Gorffennaf 2008 6:00yh Sesiynau awr y tro am gyfnod o 6 wythnos Pris am 6 awr o wersi: £30 (i’w dalu o flaen llaw) Hyfforddiant i grwpiau o 8 (mwy nag un grŵp yn bosib) Os ydych am gofrestru ffoniwch swyddfa’r Fenter 01792 864949 neu drwy e-bost: busnes@micnpt.org Clwb Golff Pontardawe
Wythnosol
Dydd Mawrth
. Coleg Castell-nedd Port Talbot TAITH YR IAITH Amser y cwrs; Dydd Mawrth , 9.30 – 11.30yb Sesiwn Cofrestru ; Tachwedd 4 Cwrs yn dechrau ; Tachwedd 11 Cost y cwrs ; £30 ( neu £12 os ydych yn haeddu gostyngiad ) Hyd y cwrs ; 10 wythnos Dewch ar y daith gyda ni! Eisiau rhagor o fanylion? Cysylltwch ag ALISON JONES ( 01639 – 648409) neu alison.jones@nptc.ac.uk Menter Dyffryn Aman (A.V.E.), Tairgwaith
Wythnosol
Dydd Mercher
7.00yh Disgos Golau Glas (oed 11-16) 7.00-10.00y.h. bob nos Fercher Clwb Nos "Paradise", Pontardawe
Wythnosol
Dydd Mercher
10.30 Bore Coffi Dewch i gael disghgled a chlonc yng Nghaffi'r Willow Grove, Castell-nedd. Croeso cynnes i ddysgwyr, Cymry ail-iaith a Chymry iaith gyntaf. Fe ddowch o hyd i'r criw cyfeillgar ar waelod y grisiau yng nghefn y caffi. Nhw yw'r bobl swnllyd ar y bwrdd cyntaf ar y dde! Caffi'r Willow Grove, Castell-nedd (gyferbyn â Gerddi Fictoria)
Wythnosol
Dydd Mercher
3-5yp HANES CYMRU Cyflwyniad i hanes ein gwlad o'r dyddiau cynnar hyd at yr 20fed ganrif. Bydd y cwrs yn cynnwys 9 gwers a gobeithir cynnal gwibdaith hefyd. Cost £37.25 neu £12 (consesiwn) Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â Alison Jones 01639 648051 neu drwy e-bost: alison.jones@nptc.ac.uk Canolfan Stryd-y-Frenhines, Castell Nedd
Wythnosol
Dydd Mercher
10yb- 12yp HANES CYMRU Taith yr Iaith Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â Alison Jones 01639 648051 neu drwy e-bost: alison.jones@nptc.ac.uk Anturiaeth Dyffryn Aman (A.V.E.), Tairgwaith
Wythnosol
Dydd Mercher Poster
8-9 Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Dewch i chwarae pel droed! £2 bob wythnos Am ragor o fanylion cysylltwch gyda Wyn Thomas 01639 763681 (gwaith) Astrotyrff Ganolfan Hamdden Pontardawe
Wythnosol
Dydd Mercher Poster
8-9 Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Dewch i chwarae pel droed! £2 bob wythnos Am ragor o fanylion cysylltwch gyda Wyn Thomas 01639 763681 (gwaith) Astrotyrff Ganolfan Hamdden Pontardawe
Wythnosol
Dydd Iau
7.00yh Menter Iaith CNPT Clwb Rhedeg Canolfan Hamdden Pontardawe
Wythnosol
Dydd Iau
10.15y.b. Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Clwb Darllen Cymraeg Festri Tabernacl, Pontardawe
Wythnosol
Dydd Iau
11:30 Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Bore Coffi wythnosol i ddysgwyr a Chymry iaith gyntaf. Cyfle i siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth. Canolfan Hyfforddiant D.O.V.E. Banwen (yn y caffi)
Wythnosol
Dydd Iau
9:30-10:45 Twf, Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru Cymraeg i Rieni Twf. Dysgu Iaith Syml i unrhywun sydd gyda phlant ifanc yn y teulu neu sy'n gweithio gyda phlant ifanc. Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Patsy Bracewell 07966 936 270 "Building Blocks" Resolfen Castell-nedd
Cysylltwch â 01792 864949 am wybodaeth bellach

 


 

 
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176