menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Dysgwyr

Lisa Pedrick + Cwis

Lisa Pedrick + Cwis
Criw bach ddaeth ynghyd i glwb ‘Dylan’s’ yng Nghwmafan nos Wener 14eg o Dachwedd ar gyfer cwis i ddysgwyr Cymraeg a’u ffrindiau, a drefnwyd gan Fenter Iaith Castellnedd Port Talbot a Chymunedau yn Gyntaf Cwmafan. Mae’r Fenter wedi canolbwyntio’n bennaf ar ardal Cwmtawe, ond mae’n ymwybodol o’r angen i gynnig gweithgareddau adloniannol i hybu’r Gymraeg yn ardal ehangach, gan gynnwys Port Talbot.
Felly manteisiwyd ar y cyfle i ddod i nabod Cymry Cymraeg a dysgwyr yr ardal. Yn anffodus ‘roedd y dyddiad yn taro yn erbyn Warren Gatland a’i ymdrechion i ddofi’r ‘Cannucks’, ac ymdrech Pudsey i helpu ‘Plant mewn Angen’ – sy’n esbonio’r criw bach siwr o fod.
Alun Pugh, prif swyddog y Fenter oedd y cwis feistr, a lluniau o enwogion Cymreig a rhyngwladol oedd y thema. Heriodd y rownd gyntaf ein gwybodaeth am wynebau cyfarwydd iawn e.e. ‘roedd gwyneb a gorchestion Ryan Giggs yn adnabyddus i bawb, ond faint oedd yn ymwybodol i’w dad chwarae Rygbi’r Gynghrair dros Gymru!; a beth oedd swydd wreiddiol y digrifwr Harry Hill? (meddyg!) Fel pob cwis da, yn heriol a rhwystredig.
Er mwyn gallu ateb unrhyw gwestiwn yn yr ail rownd roedd gofyn bod naill ai’n ddarllenwr brwd o gylchgronnau fel O.K. neu ‘Hello’, neu’n arbenigwr ar ffilmiau, neu dan 25 oed, (neu’r tri ohonynt.) Lluniau o sêr adnabyddus pan oeddynt yn oed ysgol gynradd oedd y thema. Tipyn o job adnabod Brad Pitt, Simon Cowell neu Robbie Williams pan yn blant ifanc. Anodd, ond fe gyflawnodd y dasg o ennyn trafodaeth a dadlau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ail hanner y noson, daeth y gantores ifanc o Frynaman, Lisa Pedrick i’n diddanu gyda set acwstig yn llwyr o’i C.D. ddiweddaraf – ‘Angylion yn Chwarae’. Lisa gyfansoddod rhan fwyaf o’r caneuon fel yr anthem i ferched ‘Breuddwydio’ a ‘Mor bell ni’n dau’. Canodd un gân gan y grŵp enwog yr ‘Alarm’, gyda’r Cymro Cymraeg Mike Peters fel prif leisydd, sef ‘Eiliadau fel hyn’, ac un gân gan yr hen grŵp ‘Gwacamoli’, sef ‘Cwmwl nawr’. Un o’r uchafbwyntiau sy’n amlwg yn destun balchder mawr i Lisa, oedd canu cân a gyfansoddwyd gan Cerys Mathews, ond nad yw wedi recordio ei hun, sef ‘Dyma’r Amser’. Cafodd Lisa ganiatâd arbennig gan Cerys i recordio’r gân. Yn ôl ei arfer, Duncan oedd yn cyfeilio iddi ar y gitâr a’i fysedd meistrolgar yn asio i’r dim gyda naws teimladol canu Lisa. Ynghyd â chyflwyniad naturiol a chartrefol Lisa, bu’n noson bleserus iawn.
Diolch i Dylan’s a’r merched Liz a Bethan (Cymunedau yn Gyntaf) am gefnogi’r noson. Diolch i’r ffyddloniaid a fentrodd mas a gobeithio dônt â ffrind gyda nhw y tro nesaf bydd y Fenter yn trefnu digwyddiad Cymreig yn yr ardal.
Lisa Pedrick + Cwis
18/11/2008

Bore Coffi'r Fenter

Cynhelir Bore Coffi bob bore Mercher yng nghaffi'r Willow Grove, Castell-nedd rhwng 10.30 a 11.30 o'r gloch. Caffi dim ysmygu yw hwn ac y mae bore coffi'r fenter yn cyfarfod yn yr ystafell gefn. Estynnir croeso cynnes i Gymry Cymraeg, Cymry ail-iaith a Dysgwyr, felly galwch draw am ddisgled a chlonc.

 


Croeso yng Nghastell Nedd

Bydd criw o bobl yn cyfarfod yn wythnosol bob bore Sadwrn yng Nghanolfan Coleg Castell-nedd Port Talbot, Stryd y Frenhines, Castell-nedd. Cynhelir pob math o ddigwyddiadau yno, e.e. siaradwyr, cwis, ond prif nod y cyfarfodydd yw bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymysgu gyda'i gilydd a hefyd gyda Chymry Cymraeg. Felly, os ydych yn ddysgwr/wraig neu'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, dewch draw am sgwrs a disgled o 10.30 y bore tan tua 12 o'r gloch. Mae yna groeso cynnes i bawb.

CYD

Mae cangen CYD yn cwrdd bob nos Iau am 8 o'r gloch yng Nghlwb Rygbi Castell-nedd. Am fwy o fanylion cysylltwch â'r fenter ar 01792 864949.

 

 

 

Swyddog Datblygu CYD
i Gwm Tawe

Mae John Dixon wedi cael ei benodi’n Swyddog Datblygu CYD yng Nghaerfyrddin a Chwm Tawe.  Mae John o Gaerdydd yn enedigol, a dysgodd e'r Gymraeg yn y 70'au cynnar.  'Roedd e'n byw yn Ninas Powys, ym Mro Morgannwg tan 1991, pan symudodd e a'i deulu i fyw yn ardal Llanpumsaint.  Tan yn ddiweddar, bu'n gweithio i gwmni ymgynghori rhyngwladol, ond mae bellach yn gweithio rhan amser i CYD a rhan amser ar ei liwt ei hun fel ymgynghorydd.  Mae hefyd yn gwneud rhywfaint o gyfieithu, ac yn diwtor dosbarth Cymraeg i Oedolion yn Alltwalis.  Mae ei wraig, Fran, hithau wedi dysgu'r Gymraeg trwy gwrs Wlpan, hefyd yn y 70'au, ac mae ganddynt dri o blant.
 
Mae e wrthi ar hyn o bryd yn cwrdd â'r gwahanol grwpiau ac aelodau CYD yn ei ardal, ac yn gobeithio cychwyn grwpiau newydd yn y dyfodol agos hefyd.  Mae'n bwriadu cyd-weithio yn agos gyda'r gwahanol fentrau iaith er mwyn gwneud y gorau o'r adnoddau prin sydd ar gael.

     

 

 


 

 

 


 

 
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176