menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Dysgwyr

Dysgwyr 2

Ymweliadau â Dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion y Sir

Ymweliadau â Dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion y Sir
Yn ystod mis Chwefror, bu Alun Pugh a Iona Herbert, swyddogion Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn ymweld â nifer o ddosbarthiadau Cymraeg i Oedolion o fewn y sir. Ni fu'n bosibl i ymweld â phob dosbarth, ond fe aeth Iona draw i ddau Sadwrn Siarad, un yng Ngholeg Castell-nedd a'r llall yn Ysgol Gyfun Cwrt Sart, Llansawel. Braf ydoedd gweld cymaint o bobl yn barod i roi o'u hamser a mynychu cwrs Cymraeg ar ddydd Sadwrn.

Prif nod yr ymweliadau ydoedd egluro beth yw Menter Iaith ac i gyflwyno ein hunain i'r dysgwyr a'u tiwtoriaid. Hefyd, fe ddosbarthwyd calendrau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac yr oedd pawb i'w gweld yn hapus iawn i'w derbyn.

Mae'r fenter am gadw bas data o holl ddysgwyr y sir ac er mwyn hwyluso'r gwaith, rhoddwyd ffurflen i bawb oedd yn digwydd bod yn y dosbarthiadau a'r Sadyrnau Siarad i'w chwblhau gyda'r wybodaeth angenrheidiol. Os ydych chi'n digwydd bod yn ddysgwr sydd yn byw o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot a heb gwblhau ffurflen y fenter, cysylltwch â ni ar 01792 864949.

O'r wybodaeth gasglwyd, byddwn yn edrych i drefnu digwyddiadau ar gyfer dysgwyr y sir yn y dyfodol agos.
Ymweliadau â Dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion y Sir
21/02/2004

Bore Coffi'r Fenter

Cynhelir Bore Coffi bob bore Mercher yng nghaffi'r Willow Grove, Castell-nedd rhwng 10.30 a 11.30 o'r gloch. Caffi dim ysmygu yw hwn ac y mae bore coffi'r fenter yn cyfarfod yn yr ystafell gefn. Estynnir croeso cynnes i Gymry Cymraeg, Cymry ail-iaith a Dysgwyr, felly galwch draw am ddisgled a chlonc.

 


Croeso yng Nghastell Nedd

Bydd criw o bobl yn cyfarfod yn wythnosol bob bore Sadwrn yng Nghanolfan Coleg Castell-nedd Port Talbot, Stryd y Frenhines, Castell-nedd. Cynhelir pob math o ddigwyddiadau yno, e.e. siaradwyr, cwis, ond prif nod y cyfarfodydd yw bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymysgu gyda'i gilydd a hefyd gyda Chymry Cymraeg. Felly, os ydych yn ddysgwr/wraig neu'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, dewch draw am sgwrs a disgled o 10.30 y bore tan tua 12 o'r gloch. Mae yna groeso cynnes i bawb.

CYD

Mae cangen CYD yn cwrdd bob nos Iau am 8 o'r gloch yng Nghlwb Rygbi Castell-nedd. Am fwy o fanylion cysylltwch â'r fenter ar 01792 864949.

 

 

 

Swyddog Datblygu CYD
i Gwm Tawe

Mae John Dixon wedi cael ei benodi’n Swyddog Datblygu CYD yng Nghaerfyrddin a Chwm Tawe.  Mae John o Gaerdydd yn enedigol, a dysgodd e'r Gymraeg yn y 70'au cynnar.  'Roedd e'n byw yn Ninas Powys, ym Mro Morgannwg tan 1991, pan symudodd e a'i deulu i fyw yn ardal Llanpumsaint.  Tan yn ddiweddar, bu'n gweithio i gwmni ymgynghori rhyngwladol, ond mae bellach yn gweithio rhan amser i CYD a rhan amser ar ei liwt ei hun fel ymgynghorydd.  Mae hefyd yn gwneud rhywfaint o gyfieithu, ac yn diwtor dosbarth Cymraeg i Oedolion yn Alltwalis.  Mae ei wraig, Fran, hithau wedi dysgu'r Gymraeg trwy gwrs Wlpan, hefyd yn y 70'au, ac mae ganddynt dri o blant.
 
Mae e wrthi ar hyn o bryd yn cwrdd â'r gwahanol grwpiau ac aelodau CYD yn ei ardal, ac yn gobeithio cychwyn grwpiau newydd yn y dyfodol agos hefyd.  Mae'n bwriadu cyd-weithio yn agos gyda'r gwahanol fentrau iaith er mwyn gwneud y gorau o'r adnoddau prin sydd ar gael.

     

 

 


 

 

 


 

 
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176