![]() |
|
|
|
Plant
Cymraeg - Ffordd o fywMae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cynhyrchu pecyn o ganeuon gwreiddiol gan Martin Geraint i gyflwyno’r Gymraeg i blant bach a’u rhieni. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys llyfr llywio a thaflen sydd yn cynnwys geiriau’r CD. Os ydych yn dymuno cael copi yn rhad ac am ddim, cysylltwch â swyddfa’r Fenter cyn gynted â phosib.
23/02/2010 Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Santes Dwynwen![]() Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth llynedd gyda disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Ystalyfera, penderfynwyd ymestyn y gystadleuaeth eleni i gynnwys ysgolion cynradd yr ardal.
Derbyniwyd nifer fawr o gardiau oddi wrth yr ysgolion canlynol:- Pontardawe, Trebannws, Y Wern, Y Glyn, Tyle’r Ynn a Blaendulais. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd rhan ac i’r ysgolion am eu cefnogaeth unwaith eto. Dyma enillwyr y gystadleuaeth : Y Wern: Mai Watkins Tyle'r Ynn: Katie Miller Y Glyn: Simone Anthony Pontardawe: Holly Bale Blaendulais: Nia Sarah Williams Trebannws: Caitlin Lewis 26/01/2010 Llinell Cefnogi Gwaith Cartref![]() Lansiwyd gwasanaeth cynradd y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn Nhachwedd 2005. Nod y Llinell, sydd yn cael ei rhedeg gan Fenter Môn fel rhan o wasanaeth y Llinell Gyswllt, yw cynnig cefnogaeth i rieni a phlant sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Mae'r gwasanaeth yn darparu:
· cymorth gyda geirfa neu dermau Cymraeg · cymorth ymarferol ar faterion cyffredinol yn ymwneud â helpu gyda gwaith cartref cyfrwng Cymraeg. Mae'r gwasanaeth ar gael o Ddydd Sul i Ddydd Gwener o 3.00 o'r gloch hyd 9.00 yr hwyr. Gellir cysylltu drwy ffonio 0871 230 0029 neu e-bostio post@gwaithcartref. 29/01/2010 Clwb Cymreictod Ysgol y Glyn BrynamanRoedd Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot yn falch iawn i gael gwahoddiad i fod yn un o ddarparwyr clwb ar ôl ysgol newydd yn Ysgol y Glyn, Brynaman. Cysylltodd yr ysgol a'r Fenter Iaith i'w hysbysu fod yr ysgol am ddechrau clwb Cymreictod i annog a rhoi cyfle i'r disgyblion ddefnyddio'r Iaith Gymraeg tu allan i oriau'r ysgol mewn modd cymdeithasol a hwyl. Roedd y bartneriaeth gyda'r Fenter Iaith yn un berffaith felly. Mae'r plant yn gwneud amryw o sesiynau yn y clwb megis coginio ayb, ond sesiynau chwaraeon a gemau bu'r Fenter Iaith yn ei ddarparu. Mae'r disgyblion wrth eu bodd yn chwarae gemau megis 'Dodgeball', hoci, pêl rhwyd, Pêl y Brenin, gemau dan do a llawer mwy, a hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffai'r Fenter Iaith ddiolch i'r ysgol am y gwahoddiad ac am y cyfle i gydweithio gyda'r bobl ifanc. 23/10/2009
|
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176 |