myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Plant
Llinell cefnogi Gwaith Cartref

Plant 2

Cynllun Chwarae Ysgol Gymraeg Pontardawe Haf 2009

Cynllun Chwarae Ysgol Gymraeg Pontardawe Haf 2009
Cynllun Chwarae Ysgol Gymraeg Pontardawe Haf 2009
03/07/2009

Ffair Haf Ysgol Gwaun-cae-gurwen

Ffair Haf Ysgol Gwaun-cae-gurwen
Yn dilyn gwahoddiad oddi wrth Ysgol Gwaun-cae-gurwen i fod yn rhan o Ffair Haf yr ysgol, trefnwyd stondin y Fenter Iaith ar nos Wener, 10 Gorffennaf.

Bu'r ymateb i'r stondin yn wych, gyda rhieni a disgyblion yn holi am waith y Fenter ac am addysg uwchradd Gymraeg.

Diolch yn fawr i Ceri Morgan y Prifathro am y gwahoddiad ac i bawb yn yr ysgol am y croeso.
03/07/2009

Sblash a Chân

Sblash a Chân
26/03/2009

Prosiect ‘Cymraeg – kids soak it up’!

Prosiect ‘Cymraeg – kids soak it up’!
Mae plant bach yn dysgu iaith yn rhwydd. Maen nhw’n sugno iaith fel mae sbwng yn sugno dŵr. Dyna neges Bwrdd yr Iaith Gymraeg trwy’r prosiect. Mae’r Fenter Iaith wedi bod yn cyd-weithio gyda Twf ar y prosiect gyffrous yma. ‘Rydym yn ymweld â chlinigau babanod er mwyn rhoi gwybodaeth i rieni am fanteision magu plant yn ddwyieithog ac addysg Gymraeg gan bwysleisio nad rhywbeth i blant i rieni sydd eisoes yn siarad Cymraeg yw dwyieithrwydd. Cynhelir sesiynau Canu a Rhigymau ar gyfer rhieni a phlant ifanc mewn llyfrgelloedd yn ystod Wythnos y Llyfr ac fe fyddwn yn mynychu’r sesiynau hynny er mwyn sgwrsio â’r rhieni.
24/02/2009

Ffair Haf Ysgol Gymraeg Pontardawe

Ffair Haf Ysgol Gymraeg Pontardawe
Cawsom groeso cynnes iawn yn ffair haf Ysgol Gymraeg Pontardawe. Yn anffodus roedd hi'n arllwys y glaw serch hyn roedd nifer o rieni a disgyblion yno i gefnogi'r ysgol. Daeth Eifion Price o'r grwp gwerin Jac y Do yno gyda ni i ddiddanu'r plant gyda rhywfaint o ddawnsio gwerin.
03/07/2009

Prosiect ‘Sblash a Chân'

Prosiect ‘Sblash a Chân'
‘Rydym wedi bod yn gweithio gyda TWF a MYM ar gynllun newydd cyffrous, yn cynnal sesiynau yn y pwll nofio ym Mhontardawe ar gyfer rhieni a babanod rhwng 6 mis oed a 3 mlwydd oed. Cynhelir y sesiynau am 9:15 tan 10:15 bob bore dydd Mercher. Ar ôl bod yn y dŵr ‘rydym yn canu ac yn chwarae gyda’r plant tra bod y rhieni’n cael disgled a chlonc.
26/05/2009

Cymraeg - kids soak it up!

Cymraeg - kids soak it up!
Mae hi wedi bod yn fis prysur iawn i’r Fenter Iaith gydag ymgyrch Bwrdd yr Iaith, Cymraeg-kids soak it up! Pwrpas yr ymgyrch yw hybu addysg Gymraeg a dangos i rieni di-Gymraeg fod croeso i’w plant fynychu ysgolion Cymraeg. Roeddem yn targedu teuluoedd gyda phlant 3 mlwydd oed ac iau gan fod meddyliau plant ifanc fel sbwng yn amsugno’r iaith tra bod dysgu Cymraeg fel oedolyn yn anos! Cawsom nwyddau gan Fwrdd yr Iaith i’w dosbarthu i rieni sef sbwng, bib, llyfr lliwio a chreonau mewn bag siopa cotwm.
Buom yn cyd-weithio gyda Twf ac yn mynychu clinigau babanod ym Mhontardawe, Castell-nedd, Port Talbot, Sgiwen ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Fe wnaethom fynychu sesiynau Dechrau Da yn y llyfrgelloedd yn ystod Wythnos y Llyfr. Roedd hi’n bleser cyfarfod rhieni a babanod y sir ac roedd nifer yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg.
Cawsom ddiwrnod llwyddianus iawn yn Boots Castell-nedd. Roedd ffotograffydd yno ar ran Bwrdd yr Iaith yn tynnu llun o blant 3 blwydd oed ac iau am ddim. Daeth nifer o rieni draw i gael llun o’u plentyn a sgwrsio am addysg Gymraeg. Ar y 27ain o Chwefror treuliom ddiwrnod yng Nghanolfan Siopa Aberafan yn dosbarthu’r nwyddau i rieni ac yn sgwrsio gyda nhw am addysg Gymraeg. ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Bethan Williams o Fudiad Ysgolion Meithrin, Emma Francis o Fwrdd yr Iaith, Patsy Bracewell o Twf a Rosfa’r Consuriwr am ein cynorthwyo. Roedd Rosfa’r consuriwr yn diddanu’r plant a’r rhieni a’r staff yn ystod y dydd! Roedd hi’n ddiwrnod llawn hwyl ac fe gawsom gyfle i siarad gyda thua 250 o rieni am addysg Gymraeg!

Llun Uchod
Canolfan Siopa Aberafan
Awel Davies(Menter Iaith), Patsy Bracewell(TWF), Alun Pugh (Menter Iaith), Emma Francis (Bwrdd yr Iaith), Bethan Williams (Mudiad Ysgolion Meithrin)
Llun Isod
Boots, Castell-nedd

Cymraeg - kids soak it up!
27/02/2009

Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau

Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau
Bydd Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau 2008 yn teithio i ddeuddeg o leoliadau ledled y wlad yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i ddathlu’r Nadolig.


Bydd llu o wynebau cyfarwydd yn ymddangos yn y sioe, gan gynnwys Sali Mali, Hana o Holi Hana, Now o Ribidirês, Norman Preis, cymeriad Heini, Cyw ac wrth gwrs, Siôn Corn.

Bydd pris mynediad o £3.00 i bawb, yn blant ac oedolion, a bydd system o archebu tocynnau ymlaen llaw yn weithredol trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 (cost galwad cenedlaethol).

Canolfan y Celfyddydau, Pontardawe
Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2008
(10.00am, 12.00pm and 2.00pm)

13/11/2008

Rhagor o Newyddion

. Plant Ysgol Gymraeg Pontardawe yn ennill Twrnament Rownderi 2003 y Fenter Iaith
  Bechgyn Ysgol Gymraeg Pontardawe yn ennill Twrnament Criced 2003 y Fenter Iaith
 

Twrnament Rownderi

Ysgolion Cwmgors a Gwaun-cae-gurwen yn barod i chwarae

 


Cynllun Chwarae Pontardawe wedi adeiladu Blychau Adar gyda help Swyddog Datblygu BTCV

Cynllun Chwarae castell-nedd wedi
adeiladu blychau adar
.

.

Swyddog Prosiect y Fenter yn gosod blychau adar â adeiladwyd gan blant y cynlluniau chwarae

     

 


Plant a phobl ifanc Cynlluniau Chwarae Haf yn ymweld â'r "Pwll Mawr"

.



Tîm rygbi Clarkston o'r Alban ar ô eu gêm yn erbyn bechgyn ysgol gynradd Ystalyfera
   

 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176