menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Rygbi'r Gweilch

Rygbi'r Gweilch 1
Sylwadau sylwebydd S4C Cennydd Davies ar dymor y Gweilch
Sylwadau sylwebydd S4C Cennydd Davies ar dymor y Gweilch
‘Nid da lle gellir gwell’, dihareb syml effeithiol ac yn ddigon addas i ddisgrifio tymor y Gweilch eleni. Cyn i mi gal yn taflu allan o Stadwim Liberty am ddweud y fath beth nid ceisio bod yn orfeirniadol ar bwrpas na chwaith diraddio llwyddiant y rhanbarth yng nghwpan EDF energy ydw ‘i, ond dwi’n siŵr pan fydd Lyn Jones a’i dim hyfforddi’n asesu’r tymor, yna’r casgliad mae’n siŵr fyddai cyfle euraidd yn cael ei golli.

Ar brynhawn oer yng Ngogledd Orllewin Llundain ar ddechrau mis Ebrill fe chwalwyd y freuddwyd i godi cwpan Heineken Ewrop wrth i’r tîm dan gyflawni yn erbyn y Saraseniaid, siom o’r mwya’ o ystyried y gweir rhoddwyd i’r union wrthwynebwyr bythefnos ynghynt. Serch hynny mesur tîm da yw’r gallu i daro nôl yn syth ac fe welwyd hynny wrth wthio Caerlŷr o’r neilltu i gipio cwpan EDF Energy yn Twcikenham , yn sicr nid chwarae bach yw curo ( a chwalu) un o dimau gorau Prydain dros y ddegawd ddiwetha' a rodd y fuddugoliaeth yn enghraifft glir o allu’r Gweilch I gystadlu gyda’r goreuon , y trueni mawr wrth gwrs odd na welwyd y perfformiad wythnos ynghynt, yn wir gafodd y rhwystredigaeth yma i amlygu pan holwyd Justin Marshall ar raglen ‘Scrum V’ rhai wythnosau yn ôl pan ddwedodd yn di flewyn ar dafod i’r rhanbarth wastraffu cyfle gwych yn Ewrop a gyda’r rownd gynderfynol a rownd derfynol yng Nghaerdydd eleni pwy fyddai’n anghytuno .

Er gwaetha’r siom yn y brif gystadleuaeth mi ddylai llwyddiant yn y gystadleuaeth Eingl-gymreig fod yn sbardun ar gyfer dyfodol disglair a da oedd gweld nifer o’r to ifanc yn cael cyfle yn Twcikenham yn cynnwys Gareth Owen a Jonathan Spratt I enwi ond dau, mae’r chwaraewyr yma yn ogystal â’r cnewyllyn sy bellach yn hoelion with yn nhîm Cymru megis Alun wyn Jones, Jonathan Thomas a James Hook yn brawf pendant bod talent yn cael i feithrin a’i ddatblygu drwy’r academi ranbarthol.

Yr adeg yma’r llynedd rodd y Gweilch dal yn brwydro yn y cynghrair Magners gyda’r cyfan yn cael ei benderfynu ar benwythnos ola’r gystadleuaeth lan yn y Gororau, ond eleni yn sgil rhagoriaeth Leinster does dim wedi bod yn y fantol i sawl tîm ers rhai wythnosau. Ma’ hynny’n codi’r cwestiwn o ddiwygio’r gynghrair yn y blynyddoedd nesa gan gyflwyno system gemau ail gyfle sy eisoes yn bodoli ac yn llwyddo ar draws Glawdd Offa. Y gobaith yw fyddai hynny’n ennyn diddordeb tan ddiwedd y tymor a bron yn dileu gemau dibwys. Syniad da? Ma' hynny i chi benderfynu ond cysondeb Leinster yn amlwg sy’n ennill y wobr eleni.

11/06/2008

Yr Iaith, Rygbi a Fi
Yr Iaith, Rygbi a Fi
Anarferol iawn oedd y cais i mi sgwennu’r erthygl yma fel chwaraewr gan fy mod wedi arfer a’i ddarllen cyn pob gêm. Wedi dweud hynny, bachais ar y cyfle! Nid wyf wedi sgwennu unrhyw beth yn y Gymraeg ers fy nyddiau yn Ysgol Gyfun Gŵyr, felly maddeuwch y camgymeriadau.

Mae’r iaith Gymraeg wedi chwarae rhan flaenllaw trwy gydol fy mywyd, ym mhell cyn i mi estyn am fy mhêl rygbi cyntaf. Anodd oedd hi i ddianc o’r ddylanwad gafodd fy nhad (a gafodd ei fagu ym Mrynaman), ar fy Nghymraeg a’m rygbi wrth dyfu lan. Roedd y ddau yn mynd law yn llaw i mi. Cefais fy addysg yn ysgol Bryn y Môr ac yna yn Ysgol Gyfun Gŵyr, felly dysgais sut i chwarae rygbi mewn gwahanol dimoedd trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hyn yn brofiad gwahanol iawn. Ysgol Gyfun Gŵyr oedd yr unig ysgol cyfrwng Gymraeg yn Sir Abertawe ar un adeg, felly cefais y cyfle i gymysgu gyda phobl o bob cefndir ac ardal. I mi, does yna ddim byd gwell na chymysgu gyda phobl eraill trwy chwaraeon, yn enwedig rygbi.

Nid yn unig fy mhrofiadau gyda rygbi sydd wedi elwa trwy ddysgu’r iaith, ond fy mhrofiadau bywyd yn gyffredinol. Mae’r iaith Gymraeg wedi galluogi i mi gymysgu gydag ystod eang o bobl mewn iaith arall, profi pethau megis yr Eisteddfod Genedlaethol a gwylio rhaglenni trwy gyfrwng y Gymraeg ar S4C, sydd yn fy marn i’n holl bwysig i gynnal yr iaith. Er fy mod yn ifanc, rwy’n cydnabod na fydd fy ngyrfa yn para am byth, felly mae’r gallu i siarad Cymraeg o fudd i fi wrth geisio dod o hyd i yrfa ar ddiwedd fy niwrnodau fel chwaraewr.

Braint yw hi i mi fod yn gallu siarad Cymraeg, nid yn unig mewn cylchoedd rygbi, ond yn gyffredinol. Beth sydd wedi dod i’r amlwg ar y cae ac oddi arno, yn enwedig gyda’r sylw wrth y wasg Gymraeg wedi cynyddu, yw pa mor gyffroes yw hi i feddwl am y cyfleoedd sydd yn fy nisgwyl gan fy mod yn gallu siarad Cymraeg. Mae’n wefr fawr i allu siarad gyda chefnogwyr, hyfforddwyr a chyd chwaraewyr yn Gymraeg, hyd yn oed i chwerthin ar ben un o’r chwaraewyr mewn ymarfer, a hwythau ddim yn deall.

Hoffwn i gymryd y cyfle i groesawu Connaught i’r stadiwm ac i ddymuno pob hwyl i’r Gweilch yn y gêm heddiw. Gobeithio y byddwch chi gyd yn mwynhau’r gêm.

Ben Lewis, Gweilch.

28/02/2008
Cymharu Rygbi a Chwmderi gan Jeremi Cockram
Cymharu Rygbi a Chwmderi gan Jeremi Cockram
Fe roien arian da ar y cred bod y rhan fwya o bobol yn meddwl bod ‘na hewl o wahaniaeth rhwng bywyd actor ar Pobol y Cwm a bywyd chwaraewr rygbi llawn amser. Er bod gen i ychydig mwy o brofiad o’r naill, falle fydde fe’n syndod i rai glywed y mod i’n breuddwydio’n aml am fod yn y llall – ac oni bai am anghymhwyster proffesiynol athrawon chwaraeon y cymoedd rhyw dri deg mlynedd nôl, wi’n hollol sicr y bydden i’n brasgamu’n eiddgar i faes y Liberty heno yn lle yfed lager yn yr eisteddle.

Yn wir, mae’r ddau broffesiwn yn debycach na fydde lot yn meddwl. Am un peth ma rhagbaratoi yn hanfodol i ni actorion hefyd. Allai ddim honni mod i’n gyfarwydd iawn gyda chodi pwysau, ond mae’r amlennu brown sy’n dala’n sgriptie ni yn gallu bod yn drwm yffernol, ac unwaith neu ddwy wi di cael cyt bach cas wrth drio agor y jawled.

‘Show-busnes’ yw rygbi erbyn hyn hefyd, a ma gyda ni actorion lot i ddysgu oddi wrth y chwaraewyr heddi am sut mae delio gyda’r cyhoedd mewn ffordd aeddfed a chwrtais. Er, o’m mhrofiad i, does dim byd gwell na pan ma rhywun yn ych stopo chi ar y stryd gyda gwen, (ac ambell waith, mae dala i fod ‘u danedd eu hunain da nhw), a wedyn derbyn pryd o dafod am adel i Huw fynd i’r ysgol yn y bennod nos Lun heb ei got.

Ond, a gweud y gwir, ni allwn ni fel actorion na athletwyr ddeall yn llawn pob agwedd o yrfau ein gilydd - er gwaetha’r ffaith ein bod ni’n dau’n ddibynnol ar gyflenwad cyson o hylifau. Mae ochor corfforol y gem, yn enwedig, yn dala i fod yn ddirgelwch.

Ond shwd allen i wbod ? Shwd yn y byd gall rhywun sy’n ishte mewn cadair ledr bob bore tra bo ‘na fenyw bert yn chwarae gyda’i wallt, ac yna’n gwishgo lan a neud bach o bonsan ambythdi am gwpwl o oriau, wybod y peth cynta am y dewrder a’r gwytnwch sy angen er mwyn taclo ugen stôn o wythwr sy’n dod atoch fel tancyr olew trwy’r niwl ? Wel, allai weud hyn ‘tho chi nawr, er cyment wy’n parchu ac yn edmygu chwaraewr fel Tiatia (mor dda fe’i enwyd e ddwyweth), dyw ei wynebu fe’n ddim o gymharu a gorffod sefyll ar brif stryd Cwmderi a derbyn y ddwy faril gan Anti Marian.

10/06/2008

Y GWEILCH YN YMRWYMO I’R IAITH GYMRAEG ELENI ETO
Y GWEILCH YN YMRWYMO I’R IAITH GYMRAEG ELENI ETO
Mae tîm rygbi rhanbarthol y Gweilch wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg eleni eto drwy gydweithio gyda Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot i gynhyrchu rhaglenni dwyieithog ar gyfer eu gemau cartref.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i’r Fenter Iaith gydweithio gyda’r Gweilch. Y Fenter oedd yn gyfrifol am drefnu erthyglau dwyieithog ar gyfer y rhaglenni tymor diwethaf.

Mae’r Fenter yn ddiolchgar iawn i Brif Weithredwr â thîm rheoli’r Gweilch am eu cefnogaeth, ac yn arbennig i Kevin Lock, Rheolwr Masnachol a Carly Mathews, Rheolwr Marchnata am eu cydweithrediad ac amynedd yn ystod y misoedd diwethaf.

Dymunwn bob llwyddiant i’r Gweilch yn y dyfodol ar, ac oddi ar y cae.

16/12/2007