Cyfraniad Dai Lloyd AC ar gyfer y gêm yn erbyn Ulster,
12 Medi 2009

Ar drothwy tymor newydd o rygbi, mae’r brwdfrydedd, a’r disgwyliadau, a’r hen gyffro yna eto i’w weld yn rhengoedd cefnogwyr Y Gweilch. Wedi hen arfer efo disgwyliadau uchel o’r tîm - sydd eleni eto yn llawn talent ryngwladol - ‘rydym hefyd yn barod am ambell siom ar y ffordd. Mae hynna yn natur y cefnogwr selog.
Ond mae sawl wythnos wedi mynd heibio ers i ni flasu rygbi go iawn - ers diwedd taith y Llewod yn wir - a nawr, mae artaith di-rygbi wythnosau’r haf ar ben!
Serch hynny, teg ydy nodi llwyddiant y Gweilch oedd yn Lewod hefyd - chwaraewyr fel Tommy Bowe, Mike Phillips, Adam Jones, Shane Williams, James Hook, Alun Wyn Jones a Lee Byrne a fu yn fodd hefyd i lenwi’r gagendor yna rhwng diwedd y tymor diwethaf a dechrau'r tymor hwn.
Mae llwyddiant y chwaraewyr o Gymru yn fodd i godi calon rhywun wrth edrych ymlaen at y tymor rhyngwladol yn yr Hydref, a hefyd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y Gwanwyn.
Mae yna sail wirioneddol am obaith i ychwanegu at Gampau Llawn 2005 a 2008 wedi gweld perfformiadau grymus y Cymry yn Ne Affrica eleni.
Nodwn hefyd gyfraniad y Gwyddelod i dîm y Llewod dros yr Haf, ac mae hyn yn argoeli’n dda am Gynghrair y Magners eleni a thymor arall cyffrous o’n Blaenau, gobeithio!
Heb anghofio, gan ein bod yn chwarae Ulster heddiw, am gyfraniad Tommy Bowe, fel Gweilch ac fel Gwyddel o Ulster, i dymor hynod lwyddiannus iddo fe yn bersonol (a champ lawn ei wlad) y llynedd.
Roeddwn yn digwydd bod ym Maes Awyr Belfast (ac yn wir, ar yr un awyren a Tommy Bowe) wrth i Tommy ddychwelyd adref wedi ennill y Gamp Lawn efo Iwerddon yng Nghaerdydd eleni. Roedd cannoedd o bobl yna yn ei ddisgwyl, ac yn amlwg yn ei weld fel arwr Cenedlaethol. A hynna, serch byddai rhai o’r gwleidyddion oedd yn y garfan roeddwn innau ynddo ar y pryd yn gobeithio bod yr holl Wyddelod yna yn y Maes Awyr i’w croesawu nhw!
Ond mae hyn i gyd yn tystio i dyfiant a datblygiad y Cynghrair Magners. ‘Rwyf yn gweld dyfodiad y gemau ailgyfle ar ddiwedd y tymor - lle bydd y pedwar tîm gorau yn y Gynghrair yn chwarae eto am y fraint o fod yn Bencampwyr - yn gam positif ymlaen, ac yn fodd i osgoi’r sefyllfa weithiau pan mae’r gynghrair i’w weld wedi cloffi tua’r diwedd, gydag ychydig i ddiddori y rhan fwyaf o’r cefnogwyr.
Edrychwn ymlaen at hyn, gan obeithio bydd y Gweilch yn y gemau ailgyfle yma!
Yn ogystal, roedd y realiti bod rhan fwyaf o dîm y Llewod yn y gemau prawf yn Gymry neu’n Wyddelod, hefyd yn rhoi hwb sylweddol i hygrededd Cynghrair y Magners. Hyn i gyd heb anghofio camp sylweddol y Gwyddelod o Leinster wrth ennill Cwpan Ewrop, a goroesi ‘Bloodgate’ ar y ffordd.
Mae’n amser i’r sylwebyddion hynny sydd wastad yn clochdar am ragoriaethau'r Premiership yn Lloegr newid eu syniadau, a rhoi mwy o sylw (haeddiannol) i gynghrair y Magners!
Gyda llongyfarchiadau gwresog i Ryan Jones ar ei benodiad fel Capten eleni, dymunwn pob llwyddiant i’r Gweilch dros y tymor cyffrous sydd i ddod!
GWEILCH -v- MUNSTER

MUNSTER
Tîm Undeb rygbi proffesiynol Gwyddelig yw Rygbi Munster, sy’n cystadlu yng Nghynhrair Magners a Chwpan Heineken. Mae’r tîm yn cynrychioli Cangen Munster o Undeb Rygbi Iwerddon, ac yn cwmpasu 15 clwb cartref ‘Cynghrair Iwerddon Cyfan’ a nifer o glybiau iau. Eu prif feysydd cartref yw Parc Thomond, Limerick a Pharc Musgrave, Cork.
Ffurfiwyd cangen Rygbi Munster ym 1879. Cafwyd eu buddugoliaeth enwocaf ym 1978 wrth drechu’r Crysau Duon. Hyd heddiw nhw yw’r unig dîm Gwyddelig i wneud hyn. Gyda dyfodiad proffesiynoldeb undeb rygbi yng nghanol y 1990au, bu tîm Munster yn cystadlu yng Nghwpan newydd Heineken Ewrop. Yn dilyn 3 tymor heb lwyddiant, cyrhaeddodd Munster yr wyth olaf yn nhymor 1998-99, ac yn y tymor canlynol cyrhaeddon nhw’r rownd derfynol gan golli i Northampton. Hefyd, yn 2002-03 nhw oedd ail, gan golli i Gaerlyr, er yn y tymor canlynol fe enillon nhw teitl cyntaf y Gynghrair Geltaidd, pan gyflwynwyd y bencampwriaeth y tymor blaenorol.. Yn eu trydydd gêm derfynol yng Nghwpan Heineken yn 2005-06, cafodd Munster lwyddiant enwog yn erbyn y clwb Ffrengig, Biarritz, o 23-19, gan ennill eu pencampwriaeth Ewropeaidd cyntaf. Ar 24 Mai 2008, enillodd Munster Gwpan Heineken am yr ail dro wrth guro Toulouse o 16-13.
Mae Munster yn enwog am gefnogaeth brwd eu cefnogwyr a’r awyrgylch ar ddiwrnod gêm (sŵn yn ystod chwarae a llwyr dawelwch yn ystod cic i’r gôl). Mae gemau sy’n cynnwys Munster ynddynt yn dal sawl record Cwpan Heineken am y nifer mwyaf o bobl yn bresennol ym mhob adran o’r gemau terfynol, yn ogystal â’r rhan fwyaf o bobl yn bresennol mewn gêm rygbi yn Sbaen a’r Swisdir. Mae chwaraewyr Munster yn chwarae mewn crys coch, shorts glas tywyll a sanau coch. Mae logo Rygbi Munster yn cynnwys tair coron a charw. Arwyddair y tîm yw “I’r dewr a’r ffyddlon, nid yw dim yn amhosib”. Mae system rhestru Ewrop yn dangos Munster fel tîm Cyntaf o fewn Ewrop wrth edrych ar eu perfformiad dros y pedwar tymor diwethaf.
Yn 2008 fe aeth Cyfarwyddwr Hyfforddiant, Declan Kidney, i fod yn brif hyfforddwr gydag Iwerddon, ac fe gymerodd y dyn o Awstralia,Tony McGahan ei le allan o’r adran hyfforddi.
Erthygl gan Steffan Rhodri

Braint yw cyfrannu at raglen y Gweilch heddiw am sawl reswm ond yn bennaf gan ei fod yn rhoi’r cyfle i mi dalu teyrnged i ‘niweddar dad Glyn Elliis, am y gwaith a wnaeth o grynhoi a threfnu rhaglen Clwb Abertawe yn ddiflino a didal am flynyddoedd lawer. Yn ara’ deg i ddechrau daeth y newid mewn teyrngarwch i dad a minnau o’r “Whites” i’r Gweilch ond yw hi’n rhyddhad mor fuan mae’r “Gweilch” wedi dod yn enw cyfarwydd ag urddasol ; diolch i’r drefn yr anwybyddwyd ffefryn y dafarn ar adeg y Blackjacks! ond gydag amser ddaeth y ddau ohonom yn browd o’r ffaith taw’n hardal ni yw’r unig un nath wir ymroi i’r cysyniad o rygbi rhanbarthol, gan roi hunaniaeth clybiau unigol i’r neilltu.
Bu'm yn gefnogwr selog o Abertawe am flynyddoedd lawer. Un o'm hatgofion cynhara’ yw o’r gêm ganmlwyddiant ym 1972 yn erbyn Fiji; ac wy’n cofio o hyd y siom o weld yr ymwelwyr yn eu ‘sgidie trwm ar ôl i ‘nhad bedydd, y cyn cadeirydd Horace Phillips, dynnu’n goes taw yn droednoeth y byddant yn chwarae! Bu flynyddoedd o atgofion da wedi hyn ar faes Sain Helen a thros y wlad yn dilyn fy arwyr. Yn aros yn y cof mae’r achlysuron o ennill y Gynghrair gynta’ ar Rodney Parade, y sawl fuddugoliaeth gwpan yng Nghaerdydd, y brwydrau didostur yn erbyn y “Pooler” yn yr 80au ac, wrth gwrs, y ‘derbies’ hollbwysig yn erbyn ein cymdogion Castell-nedd a Llanelli (nefoedd neu uffern fyddai’r ysgol neu waith yr wythnos yn dilyn un o’r rhain!) Ond efallai’r atgof o’r prynhawn Mercher niwlog hwnnw yn Nhachwedd ’92 sy’n twymo calonnau ni o ochrau gorllewinol y rhanbarth fwyaf ; pan ddaeth Awstralia, pencampwyr y byd, i Sain Helen a derbyn crasfa fythgofiadwy. Dyma’r unig dro yn fy ngyrfa i fi ffonio mewn i esgus fod yn dost; nid arferiad y byddem yn argymell ond gwerth y risg ar yr achlysur yma!
I’n fab Cellan, sy’n dod i wylio’r Gweilch gyda fi erbyn hyn, wrth gwrs, mae’r enwau Tiatia, Bennet, Hook a Henson yn codi’r un cyffro ag oedd enwau Moriaty, Titley, Gibbs a Wheel i mi llawer dydd. A diolch byth am hynny. Llwyddiant mawr creu’r rhanbarthau i fi yw ehangu’r gorwelion. Mae dyfodiad y cystadlaethau Celtaidd ac Ewropeaidd wedi rhoi’r cyfle i ni weld chwaraewyr gorau Ewrop a’r byd ar stepen ein drws. Mae galwadau gwaith a theulu yn cyfyngu faint o deithio o adre sy’n bosib i mi weld y Gweilch, ond cefais gyfle i’w dilyn i ambell gêm gyfagos yn Lloegr ac yn fwy cofiadwy i Baris dwy flynedd yn ôl i wylio’ r golled drychinebus yn erbyn Stade. Er y canlyniad, roedd hi’n dipyn o benwythnos!
Mae ymroddiad newydd y rhanbarthau Gwyddelig i’r Gynghrair Geltaidd yn hollbwysig i’w llwyddiant, a phob clod i Ulster a’r lleill am hyn. Cefais groeso aruthrol ar sawl ymweliad i Belfast, a dwi’n siŵr y rhown ni’r un croeso yn ôl i’n hymwelwyr o Ulster heddiw.
Sylwadau sylwebydd S4C Cennydd Davies ar dymor y Gweilch

‘Nid da lle gellir gwell’, dihareb syml effeithiol ac yn ddigon addas i ddisgrifio tymor y Gweilch eleni. Cyn i mi gal yn taflu allan o Stadwim Liberty am ddweud y fath beth nid ceisio bod yn orfeirniadol ar bwrpas na chwaith diraddio llwyddiant y rhanbarth yng nghwpan EDF energy ydw ‘i, ond dwi’n siŵr pan fydd Lyn Jones a’i dim hyfforddi’n asesu’r tymor, yna’r casgliad mae’n siŵr fyddai cyfle euraidd yn cael ei golli.
Ar brynhawn oer yng Ngogledd Orllewin Llundain ar ddechrau mis Ebrill fe chwalwyd y freuddwyd i godi cwpan Heineken Ewrop wrth i’r tîm dan gyflawni yn erbyn y Saraseniaid, siom o’r mwya’ o ystyried y gweir rhoddwyd i’r union wrthwynebwyr bythefnos ynghynt. Serch hynny mesur tîm da yw’r gallu i daro nôl yn syth ac fe welwyd hynny wrth wthio Caerlŷr o’r neilltu i gipio cwpan EDF Energy yn Twcikenham , yn sicr nid chwarae bach yw curo ( a chwalu) un o dimau gorau Prydain dros y ddegawd ddiwetha' a rodd y fuddugoliaeth yn enghraifft glir o allu’r Gweilch I gystadlu gyda’r goreuon , y trueni mawr wrth gwrs odd na welwyd y perfformiad wythnos ynghynt, yn wir gafodd y rhwystredigaeth yma i amlygu pan holwyd Justin Marshall ar raglen ‘Scrum V’ rhai wythnosau yn ôl pan ddwedodd yn di flewyn ar dafod i’r rhanbarth wastraffu cyfle gwych yn Ewrop a gyda’r rownd gynderfynol a rownd derfynol yng Nghaerdydd eleni pwy fyddai’n anghytuno .
Er gwaetha’r siom yn y brif gystadleuaeth mi ddylai llwyddiant yn y gystadleuaeth Eingl-gymreig fod yn sbardun ar gyfer dyfodol disglair a da oedd gweld nifer o’r to ifanc yn cael cyfle yn Twcikenham yn cynnwys Gareth Owen a Jonathan Spratt I enwi ond dau, mae’r chwaraewyr yma yn ogystal â’r cnewyllyn sy bellach yn hoelion with yn nhîm Cymru megis Alun wyn Jones, Jonathan Thomas a James Hook yn brawf pendant bod talent yn cael i feithrin a’i ddatblygu drwy’r academi ranbarthol.
Yr adeg yma’r llynedd rodd y Gweilch dal yn brwydro yn y cynghrair Magners gyda’r cyfan yn cael ei benderfynu ar benwythnos ola’r gystadleuaeth lan yn y Gororau, ond eleni yn sgil rhagoriaeth Leinster does dim wedi bod yn y fantol i sawl tîm ers rhai wythnosau. Ma’ hynny’n codi’r cwestiwn o ddiwygio’r gynghrair yn y blynyddoedd nesa gan gyflwyno system gemau ail gyfle sy eisoes yn bodoli ac yn llwyddo ar draws Glawdd Offa. Y gobaith yw fyddai hynny’n ennyn diddordeb tan ddiwedd y tymor a bron yn dileu gemau dibwys. Syniad da? Ma' hynny i chi benderfynu ond cysondeb Leinster yn amlwg sy’n ennill y wobr eleni.
Hanner can mlynedd yn ôl! Gan Alun Wyn Bevan

Ro’dd dewin yn air a ddefnyddiwyd yn reit aml gan Ron Griffiths, gohebydd rygbi’r South Wales Evening Post, i ddisgrifio Dewi Bebb, yr asgellwr chwimwth o’r gogledd a ddisgleiriai’n gyson i’r All Whites, Cymru a’r Llewod. Ym mis Medi 1958, penderfynodd fynychu cwrs hyfforddi yng Ngholeg y Drindod ac o fewn dim ymddangosodd i Abertawe a phrofi’i allu o’r eiliad y derbyniodd e’r bas gynta’ – y Jacks yn wynebu’r Turks ar y Strade a’r asgellwr ifanc ugain oed yn hawlio cais unigol anhygoel ar ddechrau’r ail hanner. ‘Bebb.....has brains and pace – much more is going to be heard of him’, ‘sgrifennodd ‘Scarlet’ yn yr Evening Post.
Roedd y Big Five yn cytuno ag asesiad y gohebydd ac ar yr 17eg o Ionawr 1959, prin chwe wythnos ar ôl gwisgo crys gwyn Abertawe am y tro cynta’, ro’dd y gŵr o Fangor yn wynebu’r hen elyn, Lloegr, ar Barc yr Arfau. Pump gêm ddosbarth cynta’ oedd Dewi Bebb wedi chwarae cyn i’r Big Five benderfynu cynnwys saith cap newydd ar gyfer yr ornest – Malcolm Price, Haydn Davies, Cliff Ashton, Derek Main, Ian Ford, John Leleu a Dewi.
Roedd hi’n arllwys hi drwy gydol y dydd a Pharc yr Arfau yn debyg i gae reis yn Fietnam. Llwyddodd blaenwyr Cymru, dan arweiniad Clem Thomas, i reoli’r chwarae a roedd y fuddugoliaeth o gais a throsiad i ddim yn haeddiannol. Ychydig cyn yr egwyl enillodd RH Williams y bêl yn y lein a throsglwyddo’n syth i Dewi. Gwyrodd yn gelfydd heibio Jackson a Hetherington a phlymio’n fuddugoliaethus dros y llinell gais yn y cornel. Cludwyd y Gogleddwr o’r cae ar ysgwyddau chwaraewyr a chefnogwyr.
A ro’dd Gareth Edwards yno – ei gêm ryngwladol gynta’ un fel cefnogwr. Ro’dd e a Huw Llywelyn Davies yn sefyll yn union gyferbyn â’r fan lle sgoriodd Dewi. Pan dda’th Gareth, wyth mlynedd yn ddiweddarach, i chwarae ar Barc yr Arfau ei hunan am y tro cynta’ mewn gêm ryngwladol, roedd Dewi yn chwarae ei gêm ola’ i’r tîm cenedlaethol. Yn ystod yr ornest honno (gêm Keith Jarrett gyda llaw), rhyw ddeg muned cyn y diwedd, mi dwlodd Gareth bas i Dewi ac fe sgoriodd e’i gais ola’ dros ei wlad yn yr un cornel â’r cais cynta’. Ma’ meddwl am hynny yn dal i roi gwefr arbennig i’r mewnwr byd enwog.
Beth o’dd cyfrinach Dewi Bebb fel chwaraewr? Beth oedd rhinweddau’r asgellwr a wisgodd grys Cymru 34 a weithiau rhwng 1959 ac 1967? Doedd Dewi Bebb byth yn brin o ran cyflymdra; does dim amheuaeth fe fydde fe wedi bod yn athletwr o fri petai e wedi canolbwyntio ar y gamp. Roedd Dewi Bebb yn gwybod y ffordd i’r llinell gais, ac yn gyson yn manteisio pan fyddai’r cyfleoedd yn ymddangos. Tristwch cyfnod chwarae Dewi yn y chwedegau oedd prinder y cyfleoedd a ddaeth i law – yn gyson gwelwyd y Gogleddwr yn loetran a sefyllan yn segur ar yr asgell, yn ysu am feddiant ond yn aml yn gadael y cae heb gyffwrdd â’r bêl.
Aeth y diweddar Dewi Bebb ar ddwy daith ‘da’r Llewod; i Dde Affrica ym 1962 a Seland Newydd ym 1966 a chwarae mewn wyth gêm brawf a chroesi am un cais yn erbyn Awstralia yn Brisbane. Hawliodd un cais ar ddeg i Gymru – chwech yn erbyn Lloegr a fe fyddai’i dad, W. Ambrose Bebb, darlithydd yng Ngholeg Normal Bangor, ac yn un o hoelion wyth Plaid Cymru wedi gwerthfawrogi hynny!
Hanes un o glybiau’r Rhanbarth - Clwb Rygbi Cwmllynfell

Lleolir pentref Cwmllynfell ar gopa Gwm Tawe. Mae oddeutu 1000 o drigolion i’r pentref hwn ac maent oll yn falch iawn o lwyddiant eu tim rygbi. Sefydlwyd Glwb Rygbi Cwmllynfell ym 1904 a dathlwyd ei gamlwyddiant yn ystod tymor 2004/05 trwy groesawy nifer o gyn-chwaraewyr, cyn-aelodau’r pwyllgor a ffrindiau i’r clwb ar gyfer sawl achlysur ddifyr. Daeth y tïm yn bencampwyr ar Bencampwriaeth Gorllewin Cymru 3 gwaith o 4 yn ystod y 50au hwyr a’r 60au cynnar. Yn ystod y cyfnod hwn roedd nifer o’r chwaraewyr yn gweithio yn y pyllau glo yn ystod yr wythnos ac yn edrych ymlaen yn arw at ddydd Sadwrn pan fyddent yn gwisgo eu dillad rygbi ac yn chwarae gyda chalon dros y pentref. Gobaith y chwaraewyr cryfaf fyddai cael chwarae gêm dros dïm Abertawe, Castell-nedd neu Lanelli.
Roedd cadeirydd presennol y clwb Mr Royden Morgan yn gapten ar y clwb yn y cyfnod pan daethont yn fuddigol ym Mhencampwriaeth Gorllewin Cymru. Mae Mr Royden Morgan yn gadeirydd ar y clwb ers 33 o flynyddoedd. Erbyn heddiw mae’r oes wedi newid ac mae’r clwb wedi cyrraedd safon anhygoel Cynghrair Gyntaf y Gorllewin ac yn falch iawn o fod yn un o dimau cryfaf adran y Gweilch. Yn ystod oddeutu’r 10 mlynedd diwethaf mae’r clwb wedi bod yn dra llwyddianus gan ddod yn bencampwyr ar Gynghrair Cenedlaethol 6 B Canolog ym 1997/8 ac yn bencampwyr ar Gynghrair 4 y Gorllewin ym 1998-9 ac yn bencampwyr ar Gynghrair 2 y Gorllewin yn 2004/05.
‘Rydym bellach ar ein pedwaredd mlynedd yn y Gynghrair Gyntaf a gwir fyddai dweud fod safon y rygbi yn yr adran yn gwella’n flynyddol ac mae’r ffaith i bentref bychan fod yn cystadlu ar y lefel hwn yn gyrhaeddiad yr ydym yn falch iawn ohono. Mae tarddiad ein cyfnod llwyddianus (sef oddeutu deg mlynedd yn ôl), yn cyfochri gyda dychweliad Mike Lewis i’r clwb fel chwaraewr ac fel hyfforddwr. Roedd arddull y chwarae a fabwysiadwyd gan y tïm yn nodweddiadol o’i redeg agored a’i arddull chwarae anturus a chafwyd sawl cais tra’n chwarae rygbi dymunol. Yna daeth Brian Lewis yn reolwr tïm a Wayne Morgan yn hyfforddwr ffitrwydd ac ar y cyd maent yn creu tïm rheoli cryf ac effeithiol.
Mae llwyddiant Clwb Rygbi Cwmllynfell yn dibynnu ar gefnogaeth y gymuned ac fe hoffem dalu teyrnged i bawb sydd wedi cymryd ei ran mewn helpu’r clwb(boed yn ran mawr neu fach) ers 1904.
Dymuna Cwmllynfell bob llwyddiant i’r Gweilch yn eu cystadleuaethau yn ystod y tymor gan obeithio y bydd gêm heddiw’n un dymunol. Hoffem longyfarch Shane Williams ar gael ei benodi’n Chwaraewr Rybgi Gorau’r Flwyddyn.
Twrnamaint Rygbi 7 Bob Ochr Blynyddol Cwmtawe

Cafwyd tywydd braf a thyrfa fawr i’r twrnamaint 7 bob ochr yng Nghwmtawe eleni, ar 2 Awst 2008. Fe wnaeth y diwrnod hynod o gystadleuol hwn weld y Mumbles yn cadw teitl pencampwyr Cystadleuaeth y Darian, gan guro Brynaman o 20 i 10 yn y rownd derfynol. Fe wnaeth Llanelli ennill Cystadleuaeth y Plât gan guro’r tîm o Dde Affrica, y Scorpions o 45 i 14, ac fel adlais o 2007, fe wnaeth tîm y British Army guro’r Kooga Wailers (sydd yn rhan o’r Newcastle Falcons) o 43 i 12 i ennill y Brif Gystadleuaeth.
Ond roedd ochr brudd i’r diwrnod, gan i Gadeirydd y twrnamaint 7 bob ochr Richard 'Dick' Owen farw ar 1 Gorffennaf 2008 yn 86 mlwydd oed.
Mae’r enw Richard ‘Dick’ Owen yn un sydd wedi'i gysylltu â'r twrnamaint ers y dechrau yn ôl yn 1983. ‘Dick’ oedd yr unig un a oedd wedi bod ar y pwyllgor ers y dechrau, ac roedd yn Gadeirydd yn ei flynyddoedd diweddar. Roedd gan ‘Dick’ frwdfrydedd hynod ac roedd yn falch o’r digwyddiad, a doedd dim dwywaith amdani fod y twrnamaint wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd.
Dywedodd ‘Dick’ sawl gwaith yn ddiweddar nad oedd ef na'r aelodau cychwynnol eraill fyth wedi dychmygu y byddai’r twrnamaint fel y mae heddiw, wedi'r twrnamaint cyntaf hwnnw yn 1983. Yn wir, rydym i gyd yn hapus dros ben fod ‘Dick’, er mewn cadair olwyn, wedi gallu dod i Ginio Blynyddol Twrnamaint Saith Bob Ochr Cwmtawe ddydd Gwener 23 Tachwedd 2007 yng Ngwesty’r Towers, Abertawe.
Yn ymuno â ‘Dick’ y noson honno ar y prif fwrdd oedd Max Boyce, Glanmor Griffiths, Tommy David, Llywydd y Twrnamaint JPR Williams a’r prif siaradwr Willie John McBride. Wrth edrych yn ôl, roedd mwynhau’r noson hon gyda chasgliad hyfryd o bobl rygbi yn ffordd wych i ‘Dick’ ddiweddu ei bum mlynedd ar hugain gyda’r twrnamaint. Y cricedwr Geoff Millar (Swydd Derby, Lloegr, Cadeirydd y Dewiswyr ar hyn o bryd) a’r pêl-droediwr Steve Kindon (Wolverhampton Wanderers a Lloegr B), fydd prif siaradwyr y Cinio Blynyddol eleni a fydd, ar 21 Tachwedd yn ymuno â’n cefnogwyr Costain, Samurai Sportswear yng Ngwesty’r Tower.
Heb orbwysleisio, mae colli 'Dick’ yn nodi diwedd cyfnod i dwrnamaint Saith Bob Ochr Cwmtawe, a chyfrifoldeb y pwyllgor cyfredol yw parhau â gwaith da ‘Dick’, ac eraill, i sicrhau parhad y tri digwyddiad, a’u bod yn rhai y gall y bobl leol fod yn falch ohonynt a’u mwynhau.
Cymharu Rygbi a Chwmderi gan Jeremi Cockram

Fe roien arian da ar y cred bod y rhan fwya o bobol yn meddwl bod ‘na hewl o wahaniaeth rhwng bywyd actor ar Pobol y Cwm a bywyd chwaraewr rygbi llawn amser. Er bod gen i ychydig mwy o brofiad o’r naill, falle fydde fe’n syndod i rai glywed y mod i’n breuddwydio’n aml am fod yn y llall – ac oni bai am anghymhwyster proffesiynol athrawon chwaraeon y cymoedd rhyw dri deg mlynedd nôl, wi’n hollol sicr y bydden i’n brasgamu’n eiddgar i faes y Liberty heno yn lle yfed lager yn yr eisteddle.
Yn wir, mae’r ddau broffesiwn yn debycach na fydde lot yn meddwl. Am un peth ma rhagbaratoi yn hanfodol i ni actorion hefyd. Allai ddim honni mod i’n gyfarwydd iawn gyda chodi pwysau, ond mae’r amlennu brown sy’n dala’n sgriptie ni yn gallu bod yn drwm yffernol, ac unwaith neu ddwy wi di cael cyt bach cas wrth drio agor y jawled.
‘Show-busnes’ yw rygbi erbyn hyn hefyd, a ma gyda ni actorion lot i ddysgu oddi wrth y chwaraewyr heddi am sut mae delio gyda’r cyhoedd mewn ffordd aeddfed a chwrtais. Er, o’m mhrofiad i, does dim byd gwell na pan ma rhywun yn ych stopo chi ar y stryd gyda gwen, (ac ambell waith, mae dala i fod ‘u danedd eu hunain da nhw), a wedyn derbyn pryd o dafod am adel i Huw fynd i’r ysgol yn y bennod nos Lun heb ei got.
Ond, a gweud y gwir, ni allwn ni fel actorion na athletwyr ddeall yn llawn pob agwedd o yrfau ein gilydd - er gwaetha’r ffaith ein bod ni’n dau’n ddibynnol ar gyflenwad cyson o hylifau. Mae ochor corfforol y gem, yn enwedig, yn dala i fod yn ddirgelwch.
Ond shwd allen i wbod ? Shwd yn y byd gall rhywun sy’n ishte mewn cadair ledr bob bore tra bo ‘na fenyw bert yn chwarae gyda’i wallt, ac yna’n gwishgo lan a neud bach o bonsan ambythdi am gwpwl o oriau, wybod y peth cynta am y dewrder a’r gwytnwch sy angen er mwyn taclo ugen stôn o wythwr sy’n dod atoch fel tancyr olew trwy’r niwl ? Wel, allai weud hyn ‘tho chi nawr, er cyment wy’n parchu ac yn edmygu chwaraewr fel Tiatia (mor dda fe’i enwyd e ddwyweth), dyw ei wynebu fe’n ddim o gymharu a gorffod sefyll ar brif stryd Cwmderi a derbyn y ddwy faril gan Anti Marian.