myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Rygbi'r Gweilch


Rygbi'r Gweilch 2

Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Gethin Jones

Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Gethin Jones
Allai’m meddwl am well ffordd i groesawu’r flwyddyn newydd na gwylio’r Gleision yn ‘hedfan’ tua’r Gweilch, a’r Gweilch yn troi’n ‘Las’ wrth geisio curo tîm y brif ddinas!

Wastad yn gêm anodd i’w rhagweld – weithiau heb lawer o rygbi’n digwydd, gall fod yn siomedig a dirdynnol, bob tro’n wrthdrawiadol. Ond mae yna ymroddiad pur sy’n gwneud i fi a’m tad anghofio popeth sy’n digwydd yn y byd. Mae’n ryddhad, 80 munud o ddim byd ond rygbi. Gweiddi – ar y chwaraewyr, ac ar ein gilydd! Ni yw’r arbenigwyr, gallen ni hyfforddi Cymru! ’Dyn ni’n ei garu!

Os nad yw’r ornest ei hun yn gymhelliad, mae sylweddoli y gallai, mewn ’chydig dros fis, rhyw 25 o’r chwaraewyr ar faes y Liberty heddiw fod yn cyfnewid eu siwmperi rhanbarthol am un coch yn ‘Twickers ey what”. Nifer o anafiadau, sy’n creu cyfleoedd i eraill. Chwarae i’r tîm a disgleirio fel unigolyn.

Mae’r enwau heddiw’n fy atgoffa o un o’m hoff ornest fel plentyn, y Probables v y Possibles. Ydych chi’n eu cofio? Roberts, Shanklin, Cooper, G. Jenkins yn erbyn Biggar, Hook, J Thomas a’r criw. Dewiswch eich dau set o XV.

Dim llawer o obaith gweld hynny’n digwydd gyda’r rhaglen fel ag y mae. Mae’r gêm yn newid mor gyflym, y chwaraewyr yn enfawr a’r “gwrthdrawiadau’n” wirioneddol beryglus.

Mae problem ’da S4C heddiw hefyd. Pan fydd Jerry Collins yn taclo Jamie Roberts, sut fydd hi’n bosibl cael “dryll” y dyn o’r Gweilch a “gen” y dyn o’r Gleision i’r un shot? Bydd rhaid defnyddio lens ongl lydan.

Mwynhewch! Gan ddymuno i chi i gyd 2010 hapus a iach.

Geth


12/01/2010

Steve Williams yn edrych i'r dyfodol

Steve Williams yn edrych i'r dyfodol
Mae’r ornest rhwng y Gweilch a Seintiau Northampton yn un fyddai’n diddori unrhyw gefnogwr rygbi, yn ddifater o unrhyw deyrngarwch, ond mae’n arbennig iawn yng nghartref y Williams oherwydd arwyddocâd y ddwy ardal i ni. Roeddwn yn ffodus iawn i chwarae o fewn y rhanbarth a hefyd i Northampton, ac mae gennyf atgofion hoffus o’r ddau - chwaraeais fy ngêm gyntaf ac olaf o rygbi uwch yn y llefydd yma. Roedd chwarae i Abertawe a Castell-nedd fel breuddwyd i mi.
Pan gerddais allan o’r twnel yn Franklins Gardens ar gyfer fy ngêm olaf, rwy’n cofio edrych ar y bwrdd yr oedd pawb yn arwyddo wedi i nhw chwarae eu gêm llwyddiannus cyntaf i’r Seintiau. Pan glywais ‘When The Saints Go Marching In’ yn chwarae yn ‘Jimmy’s End’, sylweddolais cymaint o fraint ydoedd wedi bod yn y 16 tymor i mi chwarae - fy mhryder nawr oedd beth i wneud ar brynhawn Sadwrn o hyn ymlaen.
Mae fy mywyd tu allan i rygbi a fy amser gyda fy nheulu yn fwy arwyddocaol i mi. Yn rhanbarth y Gweilch cefais fy ngeni a magu, a dyma le dechreuodd fy angerdd at y gêm sydd wedi ffurfio cwrs fy mywyd. Baglan bydd fy nghartref o hyd - hyd yn oed os na allaf berswadio gweddill y teulu i symud yno un diwrnod. Rwyf wedi teithio i lawr yr M4 gydag ambell dîm rygbi di-Gymraeg, a fi fyddai’r unig un yn cyffroi wrth weld gwaith dur Corus. Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio yn awr ers i mi symud, ac i fy mhlant Alffi(11) a Anna(9), Northampton yw eu cartef. Er bod ganddynt acenion ‘posh’ Nothampton, mae fy mhlant yn ystyried eu hun yn Gymry ac yn gwisgo’u cenhinen a chenhinen pedr gyda balchder ar Fawrth y 1af.
Mae’r ddau le yn debyg iawn mewn sawl ffordd – y ddau yn cael eu galw’n trefi rygbi. Mae hyn yn arferol yn Ne Cymru, ond yn Lloegr mae’r crysau pêl-droed yn dominyddu'r dref fel arfer, ond mae Northampton yn eithriad i hyn. Mae’r ddau le wedi cynhyrchu talent aruthrol ac yn dal i wneud yn gyson heddiw, gan gynnwys llawer o chwaraewyr lleol sydd yn gallu manteisio ar y cyfle i chwarae gyda’r enwau mawr fel Filo TiaTia a Jerry Collins i’r Gweilch a Bruce Reihana, Carlos Spencer a Tom Smith i Northampton.
Er bod y twrnamaint yma yn ystod rhaglen ryngwladol Hydref , a bydd llawer o’r enwau mawr ar goll, mae’n gyfle i ni edrych ar ddyfodol y tîm ac o bosib y chwaraewyr rhyngwladol sydd i ddod. Felly gobeithio bydd yr ornest heno yn un llawn cyffro, a gallaf i loddesta yn llwyddiant pa bynnag tîm fydd yn fuddugol!
Steve Williams (Hyfforddwr, Clwb Rygbi Castell-nedd)
11/11/2009

Dyma cyfraniad Dewi ‘Pws’ Morris ar gyfer rhaglen y gêm yn erbyn Caeredin 4 Hydref 2009:-

Dyma cyfraniad Dewi ‘Pws’ Morris ar gyfer rhaglen y gêm yn erbyn Caeredin 4 Hydref 2009:-
Y GÊM (Cymru – Lloegr 1999 yn Wembley)

Pan fydda i’n isel iawn a thrist,
A’r byd i gyd yn mynd yn ddu,
Estynnaf am y fideo
O’r gêm ore weles i,
Cymru yn erbyn Lloegr,
A’r gelyn ar y blân,
Y cryse coch â’u penne lawr,
A’r gwynion oll ar dân.
Dim ond munud fach i fynd,
Pan ddaeth y bêl i Scott,
Ddeg llath o flaen ei lein ei hun.
Fe ochrgamodd fel shot.
Yna...
Nôl a mlân fel gwyfyn coch
Yn hedfan dros y llaid,
Y Saeson fel rhyw geilys clai
Yn disgyn dan ei draed.
Dros y lein, a lawr â’r bêl
Neil yn hollti’r pyst,
Tri deg dau i dri deg un,
Wel, ‘na chi Saeson trist...
Mae ‘nghalon wedi codi!
Mae’n gwthio dro ‘rôl tro!
Dagrau’n chwerthin lawr fy ngrudd -
Jawl, fe chwaraeai’r fideo ‘to!
A ‘to, A ‘to, A ‘to...

O.N. Ond erbyn Dolig nesa, Gan Santa Clôs, wrth lwc,
Ga i arwr fideo newydd – Yr anghymharol Hook.
06/10/2009

Cyfraniad Dai Lloyd AC ar gyfer y gêm yn erbyn Ulster, 12 Medi 2009

Cyfraniad Dai Lloyd AC ar gyfer y gêm yn erbyn Ulster, 
12 Medi 2009
Ar drothwy tymor newydd o rygbi, mae’r brwdfrydedd, a’r disgwyliadau, a’r hen gyffro yna eto i’w weld yn rhengoedd cefnogwyr Y Gweilch. Wedi hen arfer efo disgwyliadau uchel o’r tîm - sydd eleni eto yn llawn talent ryngwladol - ‘rydym hefyd yn barod am ambell siom ar y ffordd. Mae hynna yn natur y cefnogwr selog.
Ond mae sawl wythnos wedi mynd heibio ers i ni flasu rygbi go iawn - ers diwedd taith y Llewod yn wir - a nawr, mae artaith di-rygbi wythnosau’r haf ar ben!
Serch hynny, teg ydy nodi llwyddiant y Gweilch oedd yn Lewod hefyd - chwaraewyr fel Tommy Bowe, Mike Phillips, Adam Jones, Shane Williams, James Hook, Alun Wyn Jones a Lee Byrne a fu yn fodd hefyd i lenwi’r gagendor yna rhwng diwedd y tymor diwethaf a dechrau'r tymor hwn.
Mae llwyddiant y chwaraewyr o Gymru yn fodd i godi calon rhywun wrth edrych ymlaen at y tymor rhyngwladol yn yr Hydref, a hefyd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y Gwanwyn.
Mae yna sail wirioneddol am obaith i ychwanegu at Gampau Llawn 2005 a 2008 wedi gweld perfformiadau grymus y Cymry yn Ne Affrica eleni.
Nodwn hefyd gyfraniad y Gwyddelod i dîm y Llewod dros yr Haf, ac mae hyn yn argoeli’n dda am Gynghrair y Magners eleni a thymor arall cyffrous o’n Blaenau, gobeithio!
Heb anghofio, gan ein bod yn chwarae Ulster heddiw, am gyfraniad Tommy Bowe, fel Gweilch ac fel Gwyddel o Ulster, i dymor hynod lwyddiannus iddo fe yn bersonol (a champ lawn ei wlad) y llynedd.
Roeddwn yn digwydd bod ym Maes Awyr Belfast (ac yn wir, ar yr un awyren a Tommy Bowe) wrth i Tommy ddychwelyd adref wedi ennill y Gamp Lawn efo Iwerddon yng Nghaerdydd eleni. Roedd cannoedd o bobl yna yn ei ddisgwyl, ac yn amlwg yn ei weld fel arwr Cenedlaethol. A hynna, serch byddai rhai o’r gwleidyddion oedd yn y garfan roeddwn innau ynddo ar y pryd yn gobeithio bod yr holl Wyddelod yna yn y Maes Awyr i’w croesawu nhw!
Ond mae hyn i gyd yn tystio i dyfiant a datblygiad y Cynghrair Magners. ‘Rwyf yn gweld dyfodiad y gemau ailgyfle ar ddiwedd y tymor - lle bydd y pedwar tîm gorau yn y Gynghrair yn chwarae eto am y fraint o fod yn Bencampwyr - yn gam positif ymlaen, ac yn fodd i osgoi’r sefyllfa weithiau pan mae’r gynghrair i’w weld wedi cloffi tua’r diwedd, gydag ychydig i ddiddori y rhan fwyaf o’r cefnogwyr.
Edrychwn ymlaen at hyn, gan obeithio bydd y Gweilch yn y gemau ailgyfle yma!
Yn ogystal, roedd y realiti bod rhan fwyaf o dîm y Llewod yn y gemau prawf yn Gymry neu’n Wyddelod, hefyd yn rhoi hwb sylweddol i hygrededd Cynghrair y Magners. Hyn i gyd heb anghofio camp sylweddol y Gwyddelod o Leinster wrth ennill Cwpan Ewrop, a goroesi ‘Bloodgate’ ar y ffordd.
Mae’n amser i’r sylwebyddion hynny sydd wastad yn clochdar am ragoriaethau'r Premiership yn Lloegr newid eu syniadau, a rhoi mwy o sylw (haeddiannol) i gynghrair y Magners!
Gyda llongyfarchiadau gwresog i Ryan Jones ar ei benodiad fel Capten eleni, dymunwn pob llwyddiant i’r Gweilch dros y tymor cyffrous sydd i ddod!
18/09/2009

RHOI TREFN AR YR ANRHEFN! gan Huw Llewelyn Davies

RHOI TREFN AR YR ANRHEFN!
gan Huw Llewelyn Davies
Mae gemau’r penwythnos yma yn dangos pa mor anodd yw hi i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr gyda threfn y tymor y dyddiau yma i ranbarthau Cymru. Mae’r gwahanol gystadlaethau mor wasgaredig bellach nes ei bod yn amhosib bron gwybod beth yw beth , ac mae’r gêm hon heno yn enghraifft berffaith o hynny. Munster, y pencampwyr, yn ymweld â’r Liberty. Achlysur mawr, achlysur pwysig. Ond hon yw’r gêm gyntaf i’r Gweilch yng Nghynghrair Magners ers diwedd mis Hydref, bum wythnos gyfan yn ôl, a fydd dim un arall am dair wythnos arall pan fydd y Gweilch yn ymweld â Pharc y Scarlets ar Ŵyl San Steffan.

Un dracht o’r Magners yw’r penwythnos hwn felly i holl dimoedd y Cynghrair Celtaidd, ar ôl mis cyfan ar y llwyfan rhyngwladol ac ar drothwy pythefnos o emau hollbwysig yn Ewrop, ac mae’n ddilema i’r hyfforddwyr. A oes disgwyl er enghraifft i fechgyn fel Ryan Jones ac Alun Wyn Jones allu rhoi o’u gore ar ôl pedair gem ryngwladol hynod o gorfforol mewn pedair wythnos? Gellid gofyn yr un cwestiwn am Gethin Jenkins a Jamie Roberts gyda’r Gleision; Stephen Jones a Mathew Rees gyda’r Scarlets a Luke Charteris gyda’r Dreigiau. Yn amlwg, mae ‘na demtasiwn i roi hoe iddyn nhw dros y penwythnos hwn, i wneud yn siŵr eu bod nhw wedi dad flino’n llwyr ac yn llawn egni a brwdfrydedd unwaith eto wrth gamu ymlaen at bythefnos allweddol yng Nghwpan Heineken Ewrop. Ond ar y llaw arall, mae her y Cynghrair Celtaidd yn fwy fyth eleni gyda’r drefn newydd. Pob tîm yn anelu am y pedwar ucha' er mwyn bod yno ar gyfer y “play off” ar ddiwedd y tymor. Ond i dimoedd Cymru - y ffactor ychwanegol y tymor hwn o geisio osgoi bod yr isa’ o’r pedwar rhanbarth, neu bydd ‘na ddim lle yn y brif gystadleuaeth yn Ewrop y tymor nesa .Felly, rhaid canolbwyntio ar y penwythnos hwn hefyd, ac mae’r cefnogwyr yn disgwyl gweld y tîm cryfa’ ar y cae bob Sadwrn, yn enwedig wrth groesawu tîm mor nerthol a deniadol a’r Pencampwyr o Orllewin yr Ynys Werdd.

Beth felly yw’r ateb? I fi, y drefn ddelfrydol fydda hon: Chware gemau’r Cynghrair Celtaidd i gyd ym misoedd cyntaf y tymor i orffen erbyn diwedd Ionawr ar ôl rhoi bwlch am dair gem ryngwladol ym Mis Tachwedd. Dechrau Cwpan Ewrop wedyn a chynnal y gemau hynny i gyd wedyn yn un bloc gyda’i gilydd, ac yna cael Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn glo ar y tymor cyn mentro bant ar deithiau’r Haf. I fi, mae hynny’n gwneud synnwyr - y tymor wedi ei strwythuro fel bod pawb yn gwybod ble maen nhw; y cyffro yn y gwahanol gystadlaethau yn cynyddu o Sadwrn i Sadwrn heb fwlch, a’r gwahanol gyfnodau yn gam ymlaen gyda’r safon yn codi’n gyson wrth i’r tymor fynd rhagddo. Syniad da? Ie medda fi - ond go brin y caiff e byth mo’i dderbyn!
25/11/2009

DIM LLE I DWYLLO YN EIN GÊM gan Nigel Owens

DIM LLE I DWYLLO YN EIN GÊM 
gan Nigel Owens
Mae gan dwyllo canlyniadau gwahanol. Os allwch ddianc heb gael eich dal, mae’n llwyddiant i chi. Cewch ei dal, ac mae’n rhaid i chi dderbyn y canlyniad a byw gyda’r cywilydd. Mae llawer wedi gofyn i mi ers sgandal ‘BLOODGATE’ os oeddwn yn gwybod beth oedd yn digwydd.
Oedd, roedd gen i amheuon. Pan welais Nick Evans yn cynhesu ar yr ochr, roeddwn yn ymwybodol mai’r unig ffordd gallai ddod yn ôl i’r cae fyddai drwy amnewidiad gwaed. Nid oeddwn yn credu byddent yn mynd mor bell â hyn i wneud hynny. Mae ôl-ddoethineb yn beth wych, ac efallai ddylwn i wedi bod mwy gwyliadwrus, ond nid oedd rheswm i mi amau gair meddyg y Harlecwins. Efallai dylwn wedi mynnu gweld y briw, ond eto os oedd y briw yn rhan o’i geg nad oeddwn gallu gweld, nid wyf i’n gymwys i ddweud fel arall.
Mae twyllo wedi bodoli yn chwaraeon proffesiynol erioed, ac yn mynd i barhau os ydym yn ei hoffi neu beidio. Beth am Andy Haden yn neidio allan o’r llinell yn erbyn Cymru yn 1978 mewn ymdrech i gael cic gosb i Seland Newydd ennill yr ornest? Nad twyllo yw hyn hefyd? Neu ai dyma beth elwir yn trechafwriaeth, cyn belled a’i bod yn ffafrio’i tîm nhw?
Wrth edrych yn ôl nawr, rwy’n falch methodd Nick Evans y gôl adlam, neu byddai wir wedi bod yn llanast. Rwyf wedi ailchwarae’r foment yn fy mhen sawl gwaith credwch chi fi, a’r unig beth rwy’n difaru yw nad oeddwn fwy gwyliadwrus o beth oedd yn digwydd pan ddaeth anaf Williams i’m sylw, ond gallaf sicrhau un peth, os fyswn wedi gweld y dystiolaeth o Williams yn poeri gwaed a wincio wrth adael y cae, fyswn wedi cymryd camau pellach.
Fel dyfarnwr, nid oes ots gennai pa dim sy’n ennill, cyn belled mod i wedi dyfarnu yn deg ac yn gyson, heb unrhyw gamgymeriadau amlwg.
Roedd dyletswydd ar rygbi yma i sefyll a dangos i’r rhai hynny ynghlwm â’r digwyddiad nad oedd y fath yma o chwarae yn dderbyniol na chwaith yn mynd i gael ei derbyn. Da iawn i ERC am ddelio gyda hyn. Yn bersonol, credaf fod yr unigolion wedi cael eu delio gydag yn y modd cywir.
Mae fersiwn Saesneg o hunangofiant Nigel ‘Half Time’ ar gael yn y siopau ar yr 21ain o Hydref
Mae’r fersiwn Cymraeg ‘Hanner Amser’ ar gael yn y siopau nawr
14/10/2009

Cyfraniad Rhys Bidder ar gyfer y gêm yn erbyn Leinster, 18 Medi 2009

Cyfraniad Rhys Bidder ar gyfer y gêm yn erbyn Leinster, 
18 Medi 2009
Yma yng Nghymru, ni'n dwlu ar rygbi! Oce, ni'i gyd yn gwybod 'na, ond mae'n fwy na sefyll yn geg-agored wrth i Shane ddawnsio o’i linell ei hunan, neu ryfeddu ar Gavin yn gweld popeth tri chymal cyn pawb arall. I fi, y peth pwysica’ yw pa mor bersonol yw'r profiad i'r unigolyn. Fy hoff atgof yw eistedd ar garffed fy niweddar dad. Ro'n i mewn un llaw, peint yn y llall, a phecyn o American Hard Gums wrth ei ochr. Sgoriodd Cymru; ath e lan, es i lawr, BANG! Parhaodd y traddodiad o beint (o shandi) ac American Hard Gums gyda fy nhad-cu wedi i nhad farw, ac rwy'n dal i wenu bob tro rwy'n gweld pecyn o American Hard Gums mewn archfarchnad.
Yna mae'r sgiliau hanfodol mae rygbi'n eu dysgu i ni, a ’dw i ddim yn meddwl ochrgamu a phasio, ond sgiliau bywyd. Sgiliau fel dysgu 'banter'; sut i'w gymryd, ac yn bwysicach fyth, sut i'w roi! A dysgu pwysigrwydd cydweithio fel tîm. A sawl tro ’dw i 'di bod yn aros am fws, mewn tawelwch annifyr, pan fydd hen ddyn yn datgan, “Maswr gorau Cymru oedd Aled Williams!” A ’dw i'n gwenu cyn troi ac ateb, “Oce, fi'n gweld be ti'n weud, ond...”
Er fy mod i’n gefnogwr balch o'r Gweilch, ro’n i'n arfer mynd lawr i gae San Helen i wylio'r Whites. Cymerais fantais o fynediad am ddim i blant o dan 16 oed yn ystod ‘tymor y rebels’, ac ro’n i yno fel plentyn ym 1992 pan faeddon ni bencampwyr y byd ar y pryd, sef Awstralia. Ac rwy'n credu bod angen atgoffa tîm sydd ddim yn rhy bell o fan hyn sy'n chwarae mewn coch, ac ambell i adran o'r cyfryngau, mai Abertawe oedd y clwb cyntaf i faeddu tri thîm hemisffer y de. Y cwbl rwy'n clywed amdano yn ddiweddar yw 9-3, a'r diwrnod rhedodd y tafarndai'n sych, hyd yn oed mewn sylwebaeth gemau rhwng Cross Keys a Glyn Ebwy!
Rwy’ hefyd yn dilyn Dyfnant, oherwydd ro’n i'n arfer chware iddynt. Ond buodd rhaid i hynny ddod i ben pan ddechreuais i ar Bobl-y-Cwm oherwydd roedd y merched coluro yn poeni am lygaid duon! Trïais i esbonio mai asgellwr/cefnwr o’n i, bod gen i ormod o synnwyr cyffredin, a bod i'n rhy gyflym i fod yn rhan o'r nonsens hynny, ond do’n nhw ddim yn fodlon gwrando. Sori bois!
Gyda'r tymor newydd wedi dechrau dw i ffili aros i weld pa ddylanwad gall Scott Johnson gael ar garfan sy'n llawn talent aruthrol, a hefyd i weld y cawr, Jerry Collins, ar y cae. Clywais i stori rhyw dro bod tîm ffitrwydd Seland Newydd wedi dweud wrtho fe am beidio â gwneud 'bicep curls' achos bod gormod o gyhyrau 'da fe! Ro’n nhw eisiau iddo fe golli 10 modfedd o'i freichiau, gwnaeth cynhyrchwyr Pobl-y-Cwm ofyn i fi roi 10 modfedd ychwanegol ar mreichiau i!
25/09/2009

Hanner can mlynedd yn ôl! Gan Alun Wyn Bevan

Hanner can mlynedd yn ôl!  Gan Alun Wyn Bevan
Ro’dd dewin yn air a ddefnyddiwyd yn reit aml gan Ron Griffiths, gohebydd rygbi’r South Wales Evening Post, i ddisgrifio Dewi Bebb, yr asgellwr chwimwth o’r gogledd a ddisgleiriai’n gyson i’r All Whites, Cymru a’r Llewod. Ym mis Medi 1958, penderfynodd fynychu cwrs hyfforddi yng Ngholeg y Drindod ac o fewn dim ymddangosodd i Abertawe a phrofi’i allu o’r eiliad y derbyniodd e’r bas gynta’ – y Jacks yn wynebu’r Turks ar y Strade a’r asgellwr ifanc ugain oed yn hawlio cais unigol anhygoel ar ddechrau’r ail hanner. ‘Bebb.....has brains and pace – much more is going to be heard of him’, ‘sgrifennodd ‘Scarlet’ yn yr Evening Post.
Roedd y Big Five yn cytuno ag asesiad y gohebydd ac ar yr 17eg o Ionawr 1959, prin chwe wythnos ar ôl gwisgo crys gwyn Abertawe am y tro cynta’, ro’dd y gŵr o Fangor yn wynebu’r hen elyn, Lloegr, ar Barc yr Arfau. Pump gêm ddosbarth cynta’ oedd Dewi Bebb wedi chwarae cyn i’r Big Five benderfynu cynnwys saith cap newydd ar gyfer yr ornest – Malcolm Price, Haydn Davies, Cliff Ashton, Derek Main, Ian Ford, John Leleu a Dewi.
Roedd hi’n arllwys hi drwy gydol y dydd a Pharc yr Arfau yn debyg i gae reis yn Fietnam. Llwyddodd blaenwyr Cymru, dan arweiniad Clem Thomas, i reoli’r chwarae a roedd y fuddugoliaeth o gais a throsiad i ddim yn haeddiannol. Ychydig cyn yr egwyl enillodd RH Williams y bêl yn y lein a throsglwyddo’n syth i Dewi. Gwyrodd yn gelfydd heibio Jackson a Hetherington a phlymio’n fuddugoliaethus dros y llinell gais yn y cornel. Cludwyd y Gogleddwr o’r cae ar ysgwyddau chwaraewyr a chefnogwyr.
A ro’dd Gareth Edwards yno – ei gêm ryngwladol gynta’ un fel cefnogwr. Ro’dd e a Huw Llywelyn Davies yn sefyll yn union gyferbyn â’r fan lle sgoriodd Dewi. Pan dda’th Gareth, wyth mlynedd yn ddiweddarach, i chwarae ar Barc yr Arfau ei hunan am y tro cynta’ mewn gêm ryngwladol, roedd Dewi yn chwarae ei gêm ola’ i’r tîm cenedlaethol. Yn ystod yr ornest honno (gêm Keith Jarrett gyda llaw), rhyw ddeg muned cyn y diwedd, mi dwlodd Gareth bas i Dewi ac fe sgoriodd e’i gais ola’ dros ei wlad yn yr un cornel â’r cais cynta’. Ma’ meddwl am hynny yn dal i roi gwefr arbennig i’r mewnwr byd enwog.
Beth o’dd cyfrinach Dewi Bebb fel chwaraewr? Beth oedd rhinweddau’r asgellwr a wisgodd grys Cymru 34 a weithiau rhwng 1959 ac 1967? Doedd Dewi Bebb byth yn brin o ran cyflymdra; does dim amheuaeth fe fydde fe wedi bod yn athletwr o fri petai e wedi canolbwyntio ar y gamp. Roedd Dewi Bebb yn gwybod y ffordd i’r llinell gais, ac yn gyson yn manteisio pan fyddai’r cyfleoedd yn ymddangos. Tristwch cyfnod chwarae Dewi yn y chwedegau oedd prinder y cyfleoedd a ddaeth i law – yn gyson gwelwyd y Gogleddwr yn loetran a sefyllan yn segur ar yr asgell, yn ysu am feddiant ond yn aml yn gadael y cae heb gyffwrdd â’r bêl.
Aeth y diweddar Dewi Bebb ar ddwy daith ‘da’r Llewod; i Dde Affrica ym 1962 a Seland Newydd ym 1966 a chwarae mewn wyth gêm brawf a chroesi am un cais yn erbyn Awstralia yn Brisbane. Hawliodd un cais ar ddeg i Gymru – chwech yn erbyn Lloegr a fe fyddai’i dad, W. Ambrose Bebb, darlithydd yng Ngholeg Normal Bangor, ac yn un o hoelion wyth Plaid Cymru wedi gwerthfawrogi hynny!
28/01/2009

Rhagor o Newyddion

 

 

 


 

 


 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176