menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Ieuenctid

Ieuenctid 1

Bowlio Deg!

Bowlio Deg!
05/03/2010

Joio gyda Jonathan

Joio gyda Jonathan
Ar nos Fawrth y 9fed o Chwefror roedd criw o 40 o bobl ifanc Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn ddigon ffodus i fod yn rhan o’r gynulleidfa yn y rhaglen deledu hynod o boblogaidd ‘Jonathan’ a gafodd ei ffilmio yn y Ffatri Bop ym Mhorth, Rhondda.

Wrth gwrs gwelwyd Jonathan Davies yn cyflwyno’r rhaglen gyda’i gyd-gyflwynwyr arferol Rowland Phillips, Nigel Owens ac Alex Jones. Y gwestai yn yr episod yma oedd y cyn dyfarnwr, awdur a’r sylwebydd Alun Wyn Bevan a’r cyflwynwr enwog Gethin Jones. Mae Gethin erbyn hyn yn un o wynebau amlycaf ym myd darlledu dros Gymru a Phrydain. Roedd y merched yn y gynulleidfa yn falch iawn bod Gethin yn un o’r gwesteion am resymau amlwg.…ond doedd y bechgyn ddim wedi siomi gydag Alex Jones chwaith!

Cafwyd amser da gan bawb a fynychodd y trip, gyda nifer yn llwyddo cael lluniau gyda sêr y rhaglen ac ambell i bêl rygbi o’r gêm ‘Ar y Pyst’ yn ogystal! Er i’r noson para’n hir o achos y ffilmio, nid oedd un cwyn trwy’r noson a chafwyd awyrgylch da, Cymreig hyd y diwedd. O ganlyniad i’r daith a’r cyfranogiad yn y rhaglen roedd pawb yn edrych ymlaen yn fawr i gefnogi tîm Cymru yn erbyn yr Alban ar y penwythnos.
Joio gyda Jonathan
11/02/2010

Y Fenter Iaith ar y lôn iawn gyda'r bobl ifanc

Y Fenter Iaith ar y lôn iawn gyda'r bobl ifanc
Roedd llond bws o bobl ifanc wedi llwyr fwynhau taith y Fenter Iaith i fowlio deg ar y 04/03/10. Aethom i ganolfan Tenpin yn Abertawe lle gwnaethant joio mas draw yn bowlio, bwyta byrgyr a sglodion, mwynhau gyda'r gemau arced...heb son am y losin a'r candifflos. Llongyfarchiadau i Oliver am gael y sgôr uchaf allan o bawb. Mae'r Fenter wedi cael llawer o geisiadau ers y digwyddiad i wneud taith arall ac yn hapus i'w wneud, felly gwyliwch allan am y daith bowlio deg nesaf!
Y Fenter Iaith ar y lôn iawn gyda'r bobl ifanc
04/03/2010

Rhaglen 'Jonathan'

Rhaglen 'Jonathan'
05/02/2010
Rhagor o Newyddion

 

 


 

 


 

 
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176