myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Ieuenctid

Llinell cefnogi Gwaith Cartref

Ieuenctid 2

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
13/07/2009

Joio yn Oakwood

Joio yn Oakwood
Aeth Menter Iaith a 12 person ifanc i Oakwood yn ystod gwyliau'r Pasg. Roedd pryder mawr am y tywydd gan ei bod hi'n arllwys y glaw ar y ffordd yna. Diolch byth ar ôl iddyn nhw gyrraedd peidiodd y glaw ac arhosodd y tywydd yn sych trwy'r dydd iddyn nhw. Elwodd y bobl ifanc o achos hyn oherwydd roedd y cyhoedd wedi meddwl bod y tywydd yn mynd i fod yn wael ac o ganlyniad doedd dim llawer o bobl yna o gwbl. Cymerodd y bobl ifanc mantais o'r diffyg ciwio a mwynhau'r reidiau a'r diwrnod yn fawr iawn. Hoffai’r Fenter ddiolch yn fawr i Ysgol Gyfun Ystalyfera am fenthyg bws mini’r ysgol i gludo’r bobl ifanc.
23/04/2009

Prosiect Cefnogi Arferion Iaith Taith Radio Gwifren i Stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd.

Prosiect Cefnogi Arferion Iaith
Taith Radio Gwifren i Stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd.
Mis Chwefror aethom a chriw Radio Gwifren Ysgol Ystalyfera i stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd i gyfarfod sêr rhaglen ieuenctid Radio Cymru C2, Glyn Wise a Maggi Dodd. Cafodd pob disgybl gyfle i siarad ar y radio gyda rhai’n darllen y bwletin newyddion ac yn darllen siart C2 ac eraill yn cael eu holi’n fyw ar yr awyr. Cawsom groeso cynnes iawn gan bawb yn y stiwdio. Cyfaddefodd Maggi Dodd ei bod yn ofni colli ei swydd ar ôl gweld cymaint o dalent oedd ymhlith y criw!
Bwriad y daith oedd rhoi profiad i ddisgyblion o fod mewn stiwdio radio broffesiynol a’u gwobrwyo am eu holl waith caled gyda gorsaf radio Gwifren. Derbyniodd Ysgol Ystalyfera grant gan Fwrdd Yr Iaith Gymraeg fel rhan o brosiect Cefnogi Arferion Iaith er mwyn hybu defnydd y disgyblion o’r iaith Gymraeg fel iaith gymdeithasol. Dewisodd disgyblion Ysgol Ystalyfera sefydlu gorsaf radio yn yr ysgol gyda’r grant. Mae’r orsaf yn darlledu rhaglenni Cymraeg am 2 awr y dydd i’r ffreutur a lolfa’r chweched. Mae’r orsaf wedi cyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i nifer o ddisgyblion yr ysgol ac mae hefyd wedi rhoi hwb i statws yr iaith.
Prosiect Cefnogi Arferion Iaith
Taith Radio Gwifren i Stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd.
04/03/2009

Prosiect Cefnogi Arferion Iaith

Prosiect Cefnogi Arferion Iaith
Diolch i nawdd oddi wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg, mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn cydweithio gyda staff a disgyblion Ysgol Gyfun Ystalyfera er mwyn creu e-gylchgrawn a gorsaf radio i’r ysgol.
Yn y llun, Adam Amor, Rheolwr yr Orsaf yn profi lefelau sain.
09/02/2009

Is-bwyllgor Ieuenctid

Is-bwyllgor Ieuenctid
Gig Pen-ta-Gram a Mc Saizmundo. Ar y 26ain o Fehefin ‘rydym yn ffodus iawn i gael enwogion hip hop Cymru yn y Gilbertson Suite ym Mhontardawe. £6 yw pris mynediad neu £3 i fyfyrwyr. Ffordd wych o ddathlu diwedd yr arholiadau a dechrau’r gwyliau haf!
Llun isod:-
Pen-Ta-Gram yn perfformio yng Nghlwb Gilbertson Pontardawe.
Is-bwyllgor Ieuenctid
26/05/2009

Ysgol Berfformio TAN yn mynd o nerth i nerth.

Ysgol Berfformio TAN yn mynd o nerth i nerth.
Mae Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot yn hapus iawn i weld bod ei hysgol berfformio sef Ysgol Berfformio TAN (Tawe Afan Nedd) yn mynd o nerth i nerth. Mae llwyth o bobl ifanc yn cwrdd bob bore Sadwrn i actio, byrfyfyrio, sgriptio, llwyfannu, magu hyder ac i fod yn greadigol. Mae'r bobl ifanc wrth eu bodd ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer sioe wreiddiol maent wedi bod yn creu. Cadwch lygad allan am y sioe ac i weld talent ddyfodol Cymru. Hoffai'r Fenter ddiolch yn fawr iawn i Hazel, Sali ac i Loti am eu hymroddiad a'u holl waith caled.
Ysgol Berfformio TAN yn mynd o nerth i nerth.
19/03/2009

Oakwood

Oakwood
02/03/2009

Dathlu diwrnod Santes Dwynwen

Dathlu diwrnod Santes Dwynwen
I ddathlu diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, cydweithiodd Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot gydag aelodau chweched dosbarth Ysgol Gyfun Ystalyfera i drefnu disgo i ddisgyblion blwyddyn saith yr ysgol ar brynhawn ddydd Gwener, 23ain o Ionawr. Fel rhan o lansiad gorsaf radio newydd yr ysgol roedd aelodau’r chweched dosbarth yn awyddus iawn i fod yn gyfrifol am drefnu cerddoriaeth y disgo. Roedd tua 150 o flwyddyn saith wedi dod at ei gilydd i fwynhau’r gerddoriaeth ac i ddawnsio’n ddwl lle gwelwyd dawnsfeydd megis y macarena a hyd yn oed y conga! Yn ystod yr wythnos yn arwain at y disgo bu flwyddyn saith hefyd yn cystadlu mewn cystadleuaeth y Fenter Iaith i greu cerdyn Santes Dwynwen. Ar ôl i’r disgo orffen cyflwynodd swyddogion y Fenter gwobrau i enillwyr categorïau gwahanol y gystadleuaeth megis carden fwyaf gwreiddiol, neges orau ac ymdrech mwyaf. Cipiodd Megan Ware y brif wobr o ddau docyn i’r sinema i weld ffilm o’i dewis. Hoffai’r Fenter Iaith ddiolch am gydweithrediad yr ysgol, i bawb a gymerodd rhan yn y gystadleuaeth ac i longyfarch Megan unwaith eto.
Dathlu diwrnod Santes Dwynwen
26/01/2009

Rhagor o Newyddion

 

 


 

 


 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176