myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Ieuenctid

Llinell cefnogi Gwaith Cartref

Ieuenctid 2

Y Fenter Iaith ar y lôn iawn gyda'r bobl ifanc

Y Fenter Iaith ar y lôn iawn gyda'r bobl ifanc
Roedd llond bws o bobl ifanc wedi llwyr fwynhau taith y Fenter Iaith i fowlio deg ar y 04/03/10. Aethom i ganolfan Tenpin yn Abertawe lle gwnaethant joio mas draw yn bowlio, bwyta byrgyr a sglodion, mwynhau gyda'r gemau arced...heb son am y losin a'r candifflos. Llongyfarchiadau i Oliver am gael y sgôr uchaf allan o bawb. Mae'r Fenter wedi cael llawer o geisiadau ers y digwyddiad i wneud taith arall ac yn hapus i'w wneud, felly gwyliwch allan am y daith bowlio deg nesaf!
Y Fenter Iaith ar y lôn iawn gyda'r bobl ifanc
04/03/2010

Rhaglen 'Jonathan'

Rhaglen 'Jonathan'
05/02/2010

TAITH C2 / CIWDOD

TAITH C2 / CIWDOD
Cysylltwch â Rhys Evans 01792 864949
neu
ifanc@micnpt.org
07/10/2009

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot
13/07/2009

Joio gyda Jonathan

Joio gyda Jonathan
Ar nos Fawrth y 9fed o Chwefror roedd criw o 40 o bobl ifanc Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn ddigon ffodus i fod yn rhan o’r gynulleidfa yn y rhaglen deledu hynod o boblogaidd ‘Jonathan’ a gafodd ei ffilmio yn y Ffatri Bop ym Mhorth, Rhondda.

Wrth gwrs gwelwyd Jonathan Davies yn cyflwyno’r rhaglen gyda’i gyd-gyflwynwyr arferol Rowland Phillips, Nigel Owens ac Alex Jones. Y gwestai yn yr episod yma oedd y cyn dyfarnwr, awdur a’r sylwebydd Alun Wyn Bevan a’r cyflwynwr enwog Gethin Jones. Mae Gethin erbyn hyn yn un o wynebau amlycaf ym myd darlledu dros Gymru a Phrydain. Roedd y merched yn y gynulleidfa yn falch iawn bod Gethin yn un o’r gwesteion am resymau amlwg.…ond doedd y bechgyn ddim wedi siomi gydag Alex Jones chwaith!

Cafwyd amser da gan bawb a fynychodd y trip, gyda nifer yn llwyddo cael lluniau gyda sêr y rhaglen ac ambell i bêl rygbi o’r gêm ‘Ar y Pyst’ yn ogystal! Er i’r noson para’n hir o achos y ffilmio, nid oedd un cwyn trwy’r noson a chafwyd awyrgylch da, Cymreig hyd y diwedd. O ganlyniad i’r daith a’r cyfranogiad yn y rhaglen roedd pawb yn edrych ymlaen yn fawr i gefnogi tîm Cymru yn erbyn yr Alban ar y penwythnos.
Joio gyda Jonathan
11/02/2010

Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Santes Dwynwen

Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Santes Dwynwen
Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth llynedd gyda disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Ystalyfera, penderfynwyd ymestyn y gystadleuaeth eleni i gynnwys ysgolion cynradd yr ardal.
Derbyniwyd nifer fawr o gardiau oddi wrth yr ysgolion canlynol:- Y.G. Ystalyfera, Pontardawe, Trebannws, Y Wern, Y Glyn, Tyle’r Ynn a Blaendulais.
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd rhan ac i’r ysgolion am eu cefnogaeth unwaith eto.
Dyma enillwyr y gystadleuaeth i Flwyddyn 7 Y.G.Ystalyfera:-
Eloise Chantelle Lewis a Chloe Mai Roberts.
Llongyfarchiadau!
Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Santes Dwynwen
29/01/2010

Tafliad Carreg

Tafliad Carreg
Fe drefnwyd i Theatr Arad Goch ymweld ag Ysgol Gyfun Ystalyfera nos Lun, 5 Hydref '09 i berfformio'r ddrama 'Tafliad Carreg'. Braf gweld dros 130 o bobl ifanc yn bresennol ar y noson.

Dyma ddrama sydd wedi ei selio ar stori wir. Stori dau fachgen cyffredin sy’n wynebu cyhuddiad o ddynladdiad wedi iddynt daflu cerrig oddi ar bont a lladd gyrrwr sy’n teithio islaw. Ers llwyfannu’r ddrama gyntaf ym 1996 fe’i perfformiwyd yn Awstralia, Ewrop, Gogledd America ac Asia a’i chyfieithu i 20 iaith gwahanol. Mae tafliad carreg Arad Goch yn llwyddo i wneud y stori wir yma yn un Gymreig iawn – mae pawb yn adnabod bechgyn tebyg.

Gyda cherddoriaeth fyw yn gyfeiliant cyffrous i’r comedi a’r crio, dyma sioe rymus sy’n hoelio sylw. Yn dangos sut mae un foment o wallgofrwydd yn gallu gadael creithiau oes a bywyd yn medru newid gyda thafliad carreg.
Tafliad Carreg
06/10/2009

Is-bwyllgor Ieuenctid

Is-bwyllgor Ieuenctid
Gig Pen-ta-Gram a Mc Saizmundo. Ar y 26ain o Fehefin ‘rydym yn ffodus iawn i gael enwogion hip hop Cymru yn y Gilbertson Suite ym Mhontardawe. £6 yw pris mynediad neu £3 i fyfyrwyr. Ffordd wych o ddathlu diwedd yr arholiadau a dechrau’r gwyliau haf!
Llun isod:-
Pen-Ta-Gram yn perfformio yng Nghlwb Gilbertson Pontardawe.
Is-bwyllgor Ieuenctid
26/05/2009

Rhagor o Newyddion

 

 


 

 


 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176