menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Mae gen ti ddewis

Newyddion 1

Rhydian a Rygbi

Rhydian a Rygbi
Mae Rhydian Roberts fwyaf adnabyddus am ymddangos yn y bedwaredd gyfres o 'The X Factor' pan ddaeth yn ail. Canwr operatig Cymraeg o Bontsenni ydyw sydd eisoes wedi canu yn Stadiwm y Mileniwm wedi'r Gamp Lawn yn 2008 ac yn ddiweddar yn ystod gemau Rhyngwladol yr Hydref. Cafodd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot y fraint o holi Rhydian am ei gariad at fyd y bêl hirgron.

Cliciwch ar 'Rygbi'r Gweilch' ar yr ochr chwith er mwyn darllen mwy am Rhydian.
03/02/2010

Taith Gerdded Cymdeithas Edward Llwyd

Taith Gerdded Cymdeithas Edward Llwyd
Yn ôl y llun, byddech yn meddwl bod Cymdeithas Edward Llwyd wedi trefnu taith gerdded i Begwn y De!
Anodd credu mai Tramffordd Benwyllt bu rhai o aelodau'r gymdeithas yn ogystal ag aelodau'r Fenter Iaith yn cerdded dydd Sadwrn, 9 Ionawr 2010 yn rhan o Daith Gerdded o Benwyllt i gopa Fan Gynhirych gan gerdded drwy weddillion diwydiannol yr ardal.
Hoffai'r Fenter Iaith ddiolch i Arwel Michael am arwain y daith ac am ei gydweithrediad.
Mae'r Fenter Iaith yn bwriadu cydweithio gyda'r Gymdeithas eto yn y dyfodol agos, fe fydd manylion pellach ar ein gwefan / digwyddiadur maes o law.
12/01/2010

Gigs Y Gwach – mis Ionawr

Gigs Y Gwach – mis Ionawr
Cynhaliwyd Gig y Gwach Santes Dwynwen ar nos Wener 22 Ionawr yng Nghwmni y fythol wyrdd Heather Jones a Steffan Huw, dyn ifanc o Gaerdydd, a braf dweud i fod y Gwachel dan ei sang.
Yn gyntaf ar y llwyfan oedd Steffan Huw yn berfformio set hyfryd gan ganu ambell gân gariadus i ddathlu’r wŷl. Dychwelodd Heather Jones unwaith eto i lwyfan y Gwachel i orffen y noson gyda set wych. Roedd pawb wedi mwynhau’r gerddoriaeth a chafwyd noson lwyddiannus unwaith yn rhagor.
Gigs y Gwach i ddod:-
Nos Iau, 18 Chwefror – Al Lewis a’r Band + Gildas
Nos Iau, 18 Mawrth – Steve Eves a’r Band + Alltud
26/01/2010

Cwis Nadolig y Fenter

Cwis Nadolig y Fenter
Cynhaliwyd cwis Nadolig y Fenter ar nos Lun, 28 Rhagfyr yng Nghlwb Rygbi’r Alltwen. Penderfynwyd bod elw’r noson yn mynd tuag at Ty Hafan. Buom yn ffodus iawn i gael Alun Wyn Bevan yn gwis feistr unwaith eto.
Daeth tua 100 o bobl i’r cwis eleni, a braf oedd gweld nifer o ddysgwyr a phobl ifanc yn bresennol. Cafwyd 4 rownd o gwestiynau ar ddigwyddiadau neu bersonoliaethau amlwg yn 2009, y rhan fwyaf ohonom yn gwybod yr atebion ond methu yn llwyr a chofio ar y noson! Bu cystadlu brwd ac ambell i ddadl am yr ateb cywir, ond wedi cwblhau’r rowndiau i gyd, y tîm ar y brig oedd “Merched Bobby”.

Alun Pugh, Prif Swyddog y Fenter ddaeth a’r noson i ben drwy ddiolch i bawb am eu presenoldeb ac i Alun Wyn Bevan am arwain y noson mor dda. Cyflwynwyd swm o £20 i gapten y tîm buddugol ond fe ofynnwyd i’r Fenter ddanfon y wobr tuag at Dŷ Hafan.

Llongyfarchiadau a diolch unwaith eto i dîm “Merched Bobby” am eu haelioni, a diolch yn fawr i bob un o’r timau a gymerodd rhan, Clwb Rygbi yr Alltwen am y croeso ac i Alun Wyn Bevan am roi noson pendronid, hwylus arall i drigolion yr ardal.
05/01/2010
Rhagor o Newyddion
129 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 79560

 

Clwb Darllen  Cwmafan Clwb Darllen misol Llyfrgell Cwmafan rhwng 3-4yh 3.00yh  08/02/2010

Canolfan Celfyddydau Pontardawe Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno Y Gofalwr. Canolfan Celfyddydau Pontardawe 7.30yh  12/02/2010

Cymdeithas Edward Llwyd Teithiau Cerdded Chwefror:-
Penllergaer - 13 Chwefror 2010
Margam - 27 Chwefror 2010  10.30yb  13/02/2010

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Gigs y Gwach! - Al Lewis a Gildas yn perfformio yn nhafarn y Gwachel, Pontardawe.  Mynediad am ddim!
Cliciwch ar y ddolen isod i glywed cerddoriaeth Al Lewis a'r band:
http://www.myspace.com/allewis
 Tafarn y Gwachel, Pontardawe 8.30  18/02/2010

Boomerang Cyfnewid Ysgol Gyfun Ystalyfera 10.30yb  20/02/2010


 

 
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176