Rhydian a Rygbi

Cwestiwn ag Ateb!
Enw: Rhydian Roberts
Dyddiad Geni:14/02/1983
Pentref Genedigol: Pontsenni, Powys
1.Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn rygbi?
Pan ro' ni tua 3 oed fe ddechreuodd y diddordeb mewn rygbi. Roedd yr awydd i chwarae yn fy ngwaed. Roedd fy mrawd hŷn yn chwarae rygbi felly roedd hynny’n help, ac roedd fy nhad yn gefnogwr mawr o’r gêm.
2.Beth yw eich atgof cyntaf o rygbi?
Gwylio Paul Thorburn yn trosi cic gosb tu fewn hanner ei hun! Es i allan i’r cae agosaf i ymarfer ddydd a nos, gan freuddwydio am chwarae i Gymru un diwrnod!
3.Pwy oedd dy arwyr yn y byd rygbi?
Mae yna sawl un rwyf yn edmygu dros y blynyddoedd. Roeddwn yn hoff iawn o Vainga Tuigamala, Jonah Lomu a Scott Gibbs. Mewn geiriau arall, y ‘beef cakes’ â chyflymdra!
4.Os na fyset wedi dioddef yr anaf a wnaeth ddiweddu dy yrfa rygbi, lle wyt ti’n meddwl byddet ti nawr?
Wel, fyswn yn bendant wedi parhau i ymgeisio i wisgo’r crys coch! Ond os fyswn wedi llwyddo mae hynny’n fater arall! I fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol oedd y freuddwyd, ond wedyn efallai na fyswn wedi cael y cyfle i fod yn ganwr, ac rwyf wrth fy modd yn canu. Os fyswn wedi gwrando ar be roedd y ddynes gyrfau yn ei ddweud fe fyddwn yn 'nanny' neu yn swyddog carchar!!
5.Wyt ti’n mynd i wylio unrhyw un o’r gemau chwe gwlad eleni?
Rwyf wedi cadw blychau yn fy nyddiadur er mwyn gallu gwylio pob un o gemau Cymru. Rwyf hyd yn oed wedi gohirio cyngerdd yn California oherwydd ei fod yn gwrthdaro gyda gem Cymru a Lloegr!
6.Beth yn dy farn di ydi’r tebygrwydd o Gymru’n ennill y Gamp Lawn eleni, a pwy eu bygythiad mwyaf?
Rwy’n credu bod ganddynt gymaint o siawns a phawb arall. Mae gennym y dalent a thîm hyfforddi arbennig felly prawf o gryfder meddyliol ydyw a’r dyfalbarhad i lwyddo. Y Gwyddelod a’r Ffrancwyr yw’r bygythiad!
7.Pa chwaraewr wyt ti’n credu bydd yn serennu dros Gymru yn y twrnamaint?
Does dim gwahaniaeth gen i i fod yn onest. Cyn belled a bod y garfan yn chwarae fel uned, mi fydd pob un yn serennu yn y diwedd pan fyddwn yn codi’r gwpan. Dyna sy’n cyfri!
8.Sut deimlad yw hi i ganu o flaen miloedd yn Stadiwm y Mileniwm?
Anhygoel! Y stadiwm gorau yn y byd i ganu ynddo! Does dim yn curo Stadiwm y Mileniwm!
9.Wyt ti’n credu bod gan y Gweilch siawns o ennill y bencampwriaeth eleni, yn ogystal â’r EDF a Chwpan Heineken?
Rwy’n sicr yn gobeithio! Rwyf wedi rhoi arian arnynt i ennill!
10.Yn olaf, ac yn bwysicach oll, pwy sydd am ennill yma heddiw?
Ymddiheuriadau i unrhyw gefnogwr Leeds sy’n darllen hyn, ond… Y Gweilch wrth gwrs! Gobeithio bydd y gêm yn un da i’w gwylio!