Cymraeg yn y Cartef

Mae penderfynu magu eich plant yn ddwyieithog yn benderfyniad pwysig. Penderfyniad sydd yn mynd i gael dylanwad ar fywyd eich plant ac arnoch chithau fel rhieni.
Mae llawer o fanteision o fod yn siarad dwy iaith. Bydd eich plant yn gallu mwynhau dau ddiwylliant. Byddant hefyd yn gallu pontio rhwng cenedlaethau drwy siarad yr un iaith â mam-gu a thad-cu, nain a thaid, a’r teulu estynedig. Hefyd, mae manteision economaidd. Yng Nghymru heddiw, mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sy’n gallu siarad a gweithio’n y ddwy iaith.
Os ydych chi a’ch partner yn siarad Cymraeg, mae’n fwy na thebyg y byddwch chi’n siarad Cymraeg â’ch gilydd fel teulu. Bydd eich plentyn felly’n tyfu i fod yn gwbl ddwyieithog.
Os nad yw eich partner yn siarad Cymraeg, mae’n siwr y byddwch chi wedi gofyn y cwestiwn cyn i’ch plentyn gael ei eni: “A ydyn ni eisiau i’n plentyn ni siarad Cymraeg?" Mae hwn yn gwestiwn hynod o bwysig i chi ei ofyn i chi’ch hunan ac i’ch partner. Mae’n bwysig eich bod chi’n trafod hyn ac yn ystyried barn y naill a’r llall ohonoch. Os ydych chi’n dymuno magu’ch plant yn ddwyieithog mae’n bwysig bod y ddau ohonoch yn gweld a deall manteision gwneud hyn. Mae llawer o wybodaeth i'ch cynorthwyo ar ochr dde y sgrin.
Os mai dim ond un ohonoch chi sy’n gallu siarad Cymraeg, mae’n bosibl yr hoffech chi gael rhywfaint o gyngor a chymorth ynglŷn â sut mae magu eich plentyn trwy gyfrwng dwy iaith.
Mae gennym lawer o brofiad ac arbenigedd yng Nghymru o fagu plant yn ddwyieithog. Rydyn ni ar y blaen i’r rhan fwyaf o wledydd mewn llawer o ffyrdd, o ran deall y broses. Felly, gadewch i ni rannu y profiad hwn â’n gilydd.
Cynllun Twf
Ydych chi’n rhiant ac yn chwilio am gyngor a gwybodaeth ar fagu plant yn ddwyieithog? Yn aelod o deulu lle mae un rhiant yn siarad Cymraeg a’r llall ddim, ac yn poeni am fagu’ch plentyn i siarad mwy nag un iaith? Efallai eich bod chi’n disgwyl plentyn ar hyn o bryd ac eisiau gwybod am fanteision magu’r plentyn hwnnw’n ddwyieithog, neu yn hytrach yn magu plant dwyieithog yn barod ac yn dymuno cael fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau lleol. Beth bynnag yw’ch cwestiwn mae gan brosiect y Bwrdd, Twf (gweler ddolen ar ochr dde'r sgrin), wefan gynhwysfawr sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Addysg Cyn Ysgol
Yng Nghymru, mae addysg rhan amser statudol ar gael i bob plentyn o’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 3 oed. Mae addysg statudol lawn amser yn dechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 4.
Prif ddarparwyr addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg yw Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM).
Mae MYM yn rhedeg amrywiaeth o ddarpariaethau ym mhob rhan o Gymru. Does dim rhaid eich bod chi na’ch plentyn yn medru siarad Cymraeg er mwyn gallu manteisio ar y ddarpariaeth.
Cylch Meithrin
Mae Cylchoedd Meithrin yn darparu ar gyfer plant o 2 flwydd oed hyd at oedran ysgol.
Gall plant fynd i’r Cylch Meithrin, os ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio. Maent yn cynnig cyfleoedd i blant chwarae, dysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn yr oed yma mae iaith lafar plant yn datblygu’n gyflym iawn. Bydd rhoi cyfle iddynt wneud ffrindiau, a mwynhau chwarae yn eu cwmni drwy gyfrwng y Gymraeg yn gosod seiliau cryf i adeiladu arnynt.
Mae tua 550 o gylchoedd meithrin ledled Cymru, gyda dros 10,000 o blant yn eu mynychu. (Ffigyrau MYM)
Cylchoedd Ti a Fi
Mae Cylchoedd Ti a Fi yn darparu ar gyfer plant o enedigaeth hyd at oedran ysgol.
Maent yn cynnig cyfleoedd i rieni a gwarchodwyr fwynhau chwarae gyda’u plant mewn awyrgylch anffurfiol drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gymdeithasu gyda rhieni eraill. Does dim rhaid eich bod chi na’ch plentyn yn medru siarad Cymraeg i ymuno â’r Cylch Ti a Fi lleol. Bydd croeso i chi ymuno yn y gweithgareddau, ac efallai i chi ddysgu ychydig o Gymraeg eich hunan ar y ffordd.
Mae rhai Cylchoedd Ti a Fi yn rhedeg cyrsiau “Cymraeg i’r Teulu” sy’n cyflwyno storïau, caneuon a hwiangerddi Cymraeg a rhai brawddegau syml i’w defnyddio yn y cartref.
Am fanylion pellach am Mudiad Ysgolion Meithrin neu i ddarganfod eich Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin lleol, ewch i’w gwefan:- www.mym.co.uk (Chwilio am Gylch).
