myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Newyddion 2

Helfa Drysor Pontardawe

Helfa Drysor Pontardawe
Prynhawn Sul, 16 Mai, daeth trigolion yr ardal i gymryd rhan mewn ‘Helfa Drysor’ ar droed a threfnwyd gan Huw Bowen, Cadeirydd Is-bwyllgor Pontardawe'r Fenter Iaith.
Trefnwyd 3 taith i gyfeiriadau gwahanol i osgoi’r timau dilyn ei gilydd.
Bu’r Helfa yn sialens i ran fwyaf o’r timau, gydag ambell i dîm yn gweld rhannau o Bontardawe ni welwyd o’r blaen!
Gymerodd rhan fwyaf tua 2 awr i gwblhau’r tasgau ac i ddatrys y cwestiynau, cyn cyrraedd yn ôl yn y Gwachel i gael diod a phryd o fwyd.
‘Tîm y Rhos’ enillodd y wobr gyntaf, sef pryd o fwyd i 4 yn y Gwachel, rhodd gan Jason y perchennog. Diolch yn fawr i Jason am ei haelioni, Huw Bowen am ei waith caled trefnu’r holl beth ac i’r timau â’r stiwardiaid am eu cefnogaeth ar y diwrnod.
(Llun uchod - Huw Bowen yn cyflwyno'r wobr i Rachel a Louise)
(Llun isod - y timau yn aros i glywed canlyniad y gystadleuaeth)
Helfa Drysor Pontardawe
17/05/2010

Taith Gerdded Resolfen

Taith Gerdded Resolfen
Cynhaliwyd taith gerdded Sgwd Melin Cwrt a Fferm Wynt Ffynnon Oer bore dydd Sadwrn, 24 Ebrill. Trefnwyd y daith ar y cyd gyda Chymdeithas Edward Llwyd. Diolch yn fawr i Owain Lewis o Bwyllgor Rheoli’r Fenter am arwain ac i’r 25 a fynychodd y daith.
30/04/2010

Pymtheg munud o enwogrwydd i gyflwynwyr Radio Gwifren

Pymtheg munud o enwogrwydd i gyflwynwyr Radio Gwifren
Mae Radio Gwifren, sef gorsaf radio Ysgol Gyfun Ystalyfera yn mynd o nerth i nerth ac yn ei hail flwyddyn o ddarlledu erbyn hyn. Disgyblion y chweched dosbarth sydd yn cynhyrchu a chyflwyno popeth ar y radio ac mae'r ysgol gyfan yn cael budd enfawr, nid yn unig o glywed cerddoriaeth Gymraeg yn ddyddiol ond hefyd yn clywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol gan eu cyfoedion tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot yn gweithio'n agos gyda'r bobl ifanc a threfnwyd bod rhai o gynhyrchwyr a chyflwynwyr Radio Gwifren, sef disgyblion yr ysgol, yn ymweld â stiwdio C2/ BBC Radio Cymru ac yn cymryd rhan ar raglen Magi Dodd a Glyn Wise ar nos fercher 31/03/10. Roedd y bobl ifanc wedi joio mas draw bod yn rhan flaenllaw o'r rhaglen. Cawsom amryw o gyfrifoldebau i'w gyflawni o gyfri lawr siart C2 a siart y senglau, cael sgyrsiau yn fyw ar yr awyr gyda Magi a Glyn a phrofi pymtheg munud o enwogrwydd lle eu gwelwyd yn cymryd dros y rhaglen yn llwyr am gwarter awr gyfan a gorfod cyflwyno a dewis yr holl gerddoriaeth heb unrhyw fewnbwn o'r cyflwynwyr proffesiynnol. Roedd pawb wedi cael amser ffantastig ac wedi dysgu llawer ac rydym yn siŵr bydd Radio Gwifren yn elwa o brofiad newydd y bobl ifanc yn dilyn eu hymweliad i stiwdio C2/ Radio Cymru.
Pymtheg munud o enwogrwydd i gyflwynwyr Radio Gwifren
01/04/2010

Gigs y Gwach mis Mawrth

Gigs y Gwach mis Mawrth
Cafwyd gig anhygoel yn Y Gwachel unwaith eto mis yma. Yr Alltud ddechreuodd y noson gyda set wych werinol a thraddodiadol iawn. I orffen y noson mewn steil oedd Steve Eaves a'r band - Elwyn Williams ar y gitâr a ‘Funky Pete’ Walton ar y bâs. Ro'dd Y Gwachel yn lawn dop gyda phobl wedi teithio o bell i glywed set anhygoel. Perfformiwyd nifer o ganeuon amlwg gan gynnwys 'Pysgodyn ar dy fachyn' a 'Nos Da, Mam'. Cafwyd noson i'w chofio yng nghwmni un o artistiaid gorau Cymru.
Hoffai'r Fenter Iaith ddiolch i drigolion yr ardal am eu cefnogaeth gyson ac i Fwrdd yr Iaith am noddi'r noson.
Gigs y Gwach mis Mawrth
19/03/2010

Mamma Mia!

Mamma Mia!
Nos Fercher, 12 Mai cynhaliwyd 'Cwis Ffilmiau' yng Nghlwb Rygbi'r Alltwen ble ddaeth 16 o'r aelodau ynghyd i gymryd rhan yn y cwis a pharatowyd gan Sarah Rees o'r Fenter Iaith. Dangoswyd 10 glip o ffilmiau adnabyddus amrywiol e.e. 'Titanic', 'Mamma Mia' a 'Ryan a Ronnie' ac fe ofynnwyd 5 cwestiwn ar bob ffilm.
Bu'r noson yn un hynod o lwyddiannus, a diolch i Marilyn Pugh (taflunwraig) a Linda James (cwis feistres) am gynnal y noson. Yng nghyfarfod nesa'r Crotesi, cynhelir noson 'Caws a Gwin' ar nos Fercher, 9 Mehefin yng Nghlwb Rygbi'r Alltwen am 7.30yh.
Os ydych am ymuno â'r clwb neu yn dymuno cael mwy o wybodaeth, yna cysylltwch â swyddfa'r Fenter Iaith.
(yn y llun uchod Linda James yn holi'r Crotesi)
14/05/2010

Gigs y Gwach 23.04.2010

Gigs y Gwach 23.04.2010
Cynhaliwyd Gigs y Gwach mis yma ar nos Wener gan ddechrau gyda band newydd o Ferthyr - y Betti Galŵs. Cafwyd set acwstig grêt ganddynt a hyfryd oedd clywed Emma a Delyth yn lleisio’r band ac yn harmoneiddio’n wych. Daniel Lloyd oedd yn cloi’r noson a chawsom wledd o ganeuon hen a newydd gan gynnwys Hanes Eldon Terrace, Gadael Rhos a Goleuadau Llundain. Diolch yn fawr iawn i’r ddau artist am berfformio. Hyfryd oedd gweld cymaint o bobl wedi dod allan i glywed y gig. Roedd hi wir yn noson lwyddiannus i’w chofio.
Gigs Y Gwach nesaf – Mai’r 28ain: Brigyn a Bronwen
26/04/2010

Diwrnod i’r Teulu ym Mharc Margam

Diwrnod i’r Teulu ym Mharc Margam
Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn ym Mharc Margam ar ddydd Mawrth y 30ain o Fawrth. Fe wnaeth y Fenter gydweithio ar stondin gyda Mudiad Ysgolion Meithrin yn siarad gyda’r rhieni am fanteision addysg dwyieithrwydd yn ogystal â phaentio gwynebau’r plant. Gellir weld Ritchie, Jackson a Kieran yn y llun uchod wedi cael eu gwynebau a’u dwylo wedi paentio gan staff y Fenter a Mudiad Ysgolion Meithrin. Bu llawer iawn o stondinau yn Yr Orendy, Parc Margam, gan gynnwys rhai o TWF, Playworks a Blynyddoedd Cynnar. Cafwyd amryw o weithgareddau i’r plant gan gynnwys, Crefftau, Storïau a Helfa Wyau Pasg. Roedd hyd yn oed cwningen Pasg yno i weld y plant (gwelir y llun isod!) Cafwyd diwrnod llwyddiannus a hwylus iawn gan y teuluoedd a’r staff.
Diwrnod i’r Teulu ym Mharc Margam
31/03/2010

Cinio Gŵyl Wanwyn

Cinio Gŵyl Wanwyn
Cynhaliwyd Cinio Gŵyl Wanwyn Is-bwyllgor Castell-nedd nos Fercher, 17 Mawrth yn Nhafarn y 'Crown & Sceptre' Llangatwg. Bu 43 o drigolion yr ardal yn bresennol i fwynhau'r bwyd blasus, i gymdeithasu ac i glywed hen hanes teuluol y siaradwraig gwadd Heddyr Gregory o Gwmni Teledu Tinopolis. Noson hynod o lwyddiannus.
Cinio Gŵyl Wanwyn
18/03/2010

Rhagor o Newyddion

61 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 90997

e@chlysur
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg
e-bost digwyddiadau
menter iaith castell-nedd port talbot

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o gynulleidfa Dechrau Canu Dechrau Canmol?

Medi'r 10fed am 7.30yh

Fe gall trafnidiaeth gael ei drefnu os oes angen.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â: Ffion neu Daniel: 01443 688500

 Capel Tabernacl, Cwm Afan 7.30yh  10/09/2010

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Yn perfformio yn Gigs y Gwach mis yma fe fydd Meic Stevens ac Alun Tan Lan.  Rydym wedi cael cadarnhad fod Y Gwachel yn ailagor mewn pryd, ac edrychwn ymlaen i'ch gweld ar y noson! Tafarn Y Gwachel 8.30yh  17/09/2010

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Taith 'nabod ardal

Dewch gyda ni ar hen fws N & C ar hyd Cwm Nedd.
Fe fyddwn yn cychwyn o faes parcio'r

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu gig yng Nghlwb Rygbi Brynaman ar Hydref y 1af.  Fe fydd Elin Fflur a Gildas yn perfformio ar y noson!  Mae'r tocynnau yn £6, felly'r cyntaf i'r felin!
I archebu eich tocyn, cysylltwch â Sarah:
01792 864949 neu busnes@micnpt.org
 Clwb Rygbi Brynaman 7.30yh  01/10/2010

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Sblash a Chân
Sesiynau nofio i riant a phlentyn rhwng 6 mis oed a 3 mlwydd oed. 
Dydd Mawrth 11.45-12.15 - £2.50 y sesiwn!
Am 10 wythnos: 07/09/10 - 09/11/10
Cofiwch aros am ddisgled a sgwrs!
Am ragor o fanylion cysylltwch â Sarah: 01792 864949 Pwll Nofio Pontardawe 11.45  09/11/2010


 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176