myspace

facebook
Mae gen ti ddewis Cysill ar-lein

 

 

 

menter@micnpt.org

Menter Iaith
Castell-nedd Port Talbot
Canolfan y Groes
1 Stryd Fawr
Pontardawe.
SA8 4HU

Ffôn: 01792 864949

 

Newyddion 2

Tîm Pêl-rwyd Y Waun

Tîm Pêl-rwyd Y Waun
Dyma rhai o ferched tîm pêl-rwyd y Waun yn eu hŵdis newydd. Mae’r merched dan 18 yn ymarfer bob nos Iau yng nghampfa Gwaun Cae Gurwen am 6yh. Croeso i chwaraewyr newydd ymuno â ni!
17/06/2010

Y Fenter yn chwilio am hyfforddwyr!

Y Fenter yn chwilio am hyfforddwyr!
14/06/2010

Cwis Ffilmiau

Cwis Ffilmiau
Cynhaliwyd Cwis Ffilmiau yn y Crown & Sceptre, Llangatwg ar nos Lun yr 17eg o Fai. Roedd hi'n noson lwyddiannus dros ben gyda'r lle yn llawn dop o gystadleuwyr. Paratôdd y Fenter glipiau o ffilmiau adnabyddus a chwestiynau i gyd-fynd. Roedd y sgôr yn agos iawn, yn enwedig rhwng y 3 tîm uchaf. Dyma'r canlyniadau:
Yn 3ydd gyda 85 o bwyntiau: Rhyfelwyr Lyn
Yn 2il gyda 87 o bwyntiau: Tîm Twp
Yn fuddugol gyda 90.5 o bwyntiau: Tîm Wil
Llongyfarchiadau i dîm Wil, a diolch yn fawr iawn i'r holl gystadleuwyr am eu cefnogaeth

24/05/2010

Helfa Drysor Pontardawe

Helfa Drysor Pontardawe
Prynhawn Sul, 16 Mai, daeth trigolion yr ardal i gymryd rhan mewn ‘Helfa Drysor’ ar droed a threfnwyd gan Huw Bowen, Cadeirydd Is-bwyllgor Pontardawe'r Fenter Iaith.
Trefnwyd 3 taith i gyfeiriadau gwahanol i osgoi’r timau dilyn ei gilydd.
Bu’r Helfa yn sialens i ran fwyaf o’r timau, gydag ambell i dîm yn gweld rhannau o Bontardawe ni welwyd o’r blaen!
Gymerodd rhan fwyaf tua 2 awr i gwblhau’r tasgau ac i ddatrys y cwestiynau, cyn cyrraedd yn ôl yn y Gwachel i gael diod a phryd o fwyd.
‘Tîm y Rhos’ enillodd y wobr gyntaf, sef pryd o fwyd i 4 yn y Gwachel, rhodd gan Jason y perchennog. Diolch yn fawr i Jason am ei haelioni, Huw Bowen am ei waith caled trefnu’r holl beth ac i’r timau â’r stiwardiaid am eu cefnogaeth ar y diwrnod.
(Llun uchod - Huw Bowen yn cyflwyno'r wobr i Rachel a Louise)
(Llun isod - y timau yn aros i glywed canlyniad y gystadleuaeth)
Helfa Drysor Pontardawe
17/05/2010

'Yn y bag!'

'Yn y bag!'
Ar ddydd Gwener yr 11eg o Fehefin, fe aeth swyddogion a staff y Fenter i Tesco Pontardawe i bacio bagiau’r cwsmeriaid. Y bwriad oedd codi arian ar gyfer Gŵyl y Gwach sydd yn cymryd lle ar yr 16eg a’r 17eg o Orffennaf. Hoffai’r Fenter ddiolch i holl staff Tesco am eu cydweithrediad ac i’r cwsmeriaid am eu haelioni.
15/06/2010

Gigs Y Gwach mis Mai

Gigs Y Gwach mis Mai
Cynhaliwyd Gigs y Gwach mis Mai ar nos Wener,
28ain. Agorwyd y noson gyda pherfformiad gwych gan Bronwen Lewis, gyda chefnogaeth oddi wrth Rhiannon ac Alys, y tair yn ferched lleol sydd yn mynychu Ysgol Gyfun Ystalyfera.
I gloi’r noson cafwyd perfformiad proffesiynol iawn unwaith eto gan y brodyr o Lanrug. Diddanwyd y gynulleidfa gyda chaneuon acwstig megis ‘Bohemia Bach’, ‘Bysedd yn dy Wallt’, eu teyrnged i’r paffiwr Johnny Owen ‘Y Sgwâr’ ar fersiwn hyfryd o glasur Leonard Cohen ‘Haleliwia’. Noson wych arall yn y Gwachel.
(Yn y llun uchod - 'Brigyn' gyda Dyfrig Harris, Cadeirydd y Fenter Iaith a Huw Bowen, Cadeirydd Is-bwyllgor Pontardawe)
01/06/2010

Pêl-droed i oedolion (16+)

Pêl-droed i oedolion (16+)
21/05/2010

Mamma Mia!

Mamma Mia!
Nos Fercher, 12 Mai cynhaliwyd 'Cwis Ffilmiau' yng Nghlwb Rygbi'r Alltwen ble ddaeth 16 o'r aelodau ynghyd i gymryd rhan yn y cwis a pharatowyd gan Sarah Rees o'r Fenter Iaith. Dangoswyd 10 glip o ffilmiau adnabyddus amrywiol e.e. 'Titanic', 'Mamma Mia' a 'Ryan a Ronnie' ac fe ofynnwyd 5 cwestiwn ar bob ffilm.
Bu'r noson yn un hynod o lwyddiannus, a diolch i Marilyn Pugh (taflunwraig) a Linda James (cwis feistres) am gynnal y noson. Yng nghyfarfod nesa'r Crotesi, cynhelir noson 'Caws a Gwin' ar nos Fercher, 9 Mehefin yng Nghlwb Rygbi'r Alltwen am 7.30yh.
Os ydych am ymuno â'r clwb neu yn dymuno cael mwy o wybodaeth, yna cysylltwch â swyddfa'r Fenter Iaith.
(yn y llun uchod Linda James yn holi'r Crotesi)
14/05/2010

Rhagor o Newyddion

64 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 91000

e@chlysur
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg
e-bost digwyddiadau
menter iaith castell-nedd port talbot

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o gynulleidfa Dechrau Canu Dechrau Canmol?

Medi'r 10fed am 7.30yh

Fe gall trafnidiaeth gael ei drefnu os oes angen.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â: Ffion neu Daniel: 01443 688500

 Capel Tabernacl, Cwm Afan 7.30yh  10/09/2010

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Yn perfformio yn Gigs y Gwach mis yma fe fydd Meic Stevens ac Alun Tan Lan.  Rydym wedi cael cadarnhad fod Y Gwachel yn ailagor mewn pryd, ac edrychwn ymlaen i'ch gweld ar y noson! Tafarn Y Gwachel 8.30yh  17/09/2010

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Taith 'nabod ardal

Dewch gyda ni ar hen fws N & C ar hyd Cwm Nedd.
Fe fyddwn yn cychwyn o faes parcio'r

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu gig yng Nghlwb Rygbi Brynaman ar Hydref y 1af.  Fe fydd Elin Fflur a Gildas yn perfformio ar y noson!  Mae'r tocynnau yn £6, felly'r cyntaf i'r felin!
I archebu eich tocyn, cysylltwch â Sarah:
01792 864949 neu busnes@micnpt.org
 Clwb Rygbi Brynaman 7.30yh  01/10/2010

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot Sblash a Chân
Sesiynau nofio i riant a phlentyn rhwng 6 mis oed a 3 mlwydd oed. 
Dydd Mawrth 11.45-12.15 - £2.50 y sesiwn!
Am 10 wythnos: 07/09/10 - 09/11/10
Cofiwch aros am ddisgled a sgwrs!
Am ragor o fanylion cysylltwch â Sarah: 01792 864949 Pwll Nofio Pontardawe 11.45  09/11/2010


 

 
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot - Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 6156176